2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 20 Mehefin 2018.
4. A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu sut y bydd prosiect olynol Cyflymu Cymru yn ymgysylltu ag eiddo nad oedd yn rhan o'r cynllun cychwynnol? OAQ52363
Bydd fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cyflenwi llwyddiannus y cynllun olynol i ddatblygu cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu cynhwysfawr a chadarn, a bydd manylion y cynllun hwnnw ar gael ar ôl cwblhau'r broses gaffael.
Diolch i chi, ac er fy mod yn deall y bydd y manylion ar gael a phryd y byddant ar gael, diau eich bod yn ymwybodol fod gennyf nifer sylweddol o berchnogion tai a pherchnogion busnesau nad ydynt wedi elwa o gyflwyniad cyfredol Cyflymu Cymru. Cymerodd beth amser i geisio sefydlu—anfonais bob un o'r rhain atoch, neu lawer ohonynt—ac fe gymerodd beth amser i sylweddoli nad oeddent wedi'u cynnwys: mae 4.5 y cant yn dal i fod yn methu derbyn unrhyw fath o fand eang ffeibr tra bo 3.5 y cant arall ond yn derbyn 2.4Mbps neu lai, a chryn dipyn yn llai yn aml, gyda llawer yn derbyn 1 Mbps neu 2 Mbps yn unig. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae bellach bron yn amhosibl rhedeg busnes, i blant wneud gwaith cartref neu i allu llenwi ffurflenni ffermio gofynnol ar-lein. Sut y byddwn ni, fel Aelodau Cynulliad, yn gallu gweithio gyda chi fel Llywodraeth, a sut y byddwch chi a'r prosiect olynol newydd yn cyfathrebu manylion eiddo y rheini sydd ar eu colled yn ein cymunedau ac sydd wedi cysylltu â ni i wneud hynny, oherwydd credaf fod gormod o amser wedi cael ei wastraffu? A chydag unrhyw brosiect olynol, rwyf eisiau gallu bwrw iddi a sefydlu'n eithaf cyflym a fyddant yn elwa o'r prosiect nesaf.
Yn sicr, ac fel y dywedais pan fynychais y cyfarfod yn eich etholaeth, rydym yn sicr yn ystyried hynny ac felly cynllunnir prosiectau olynol i fynd i eiddo penodol. Felly, os byddwch yn cofio, roedd y cyntaf yn bwll pysgota braidd: gallent fynd i dros 690,000 eiddo ledled Cymru—unrhyw eiddo y dymunent—oherwydd cawsom broblem enfawr pan ddechreuasom ar y rhaglen honno. Nid oes ond 95,000 o safleoedd ar ôl gennym bellach. Felly, yn y broses gaffael nesaf rydym wedi gofyn am iddo gael ei dargedu, fel y byddwn yn gwybod yn union, gyda'r bobl sy'n llwyddiannus yn y rhaglen olynol, i ble maent yn mynd a pham a faint fydd hynny'n ei gostio. Felly, byddwn yn gwybod pwy fydd yn rhan o'r rhaglen a phwy na fydd yn rhan o'r rhaglen. Byddwn yn gallu cael strategaeth gyfathrebu ar gyfer y bobl sy'n rhan o'r rhaglen, felly, os oes oedi ac ati, byddwn yn gwybod yn union beth yw'r broblem. Ac mewn perthynas â'r bobl na fydd yn rhan o'r rhaglen, byddwn wedyn yn dechrau gweithio ar gynlluniau pwrpasol ar eu cyfer. Oherwydd, rwyf wedi bod yn glir iawn: ar hyn o bryd, gyda'r gyfran o'r budd a'r swm o arian sydd gennym, rydym ychydig yn brin o'r arian sydd ei angen i gyrraedd pawb, er, gyda'r rhaglen fuddsoddi ganolraddol y gwyddom amdani bellach, rydym wedi cael £31 miliwn arall i fuddsoddi yn honno, ond eto ni fydd yn llawn digon, felly bydd yn rhaid i ni gael yr atebion cymunedol pwrpasol hynny yn ogystal.
Rwyf eisoes wedi dweud diolch yn fawr wrth arweinydd y tŷ am y gwaith rhyfeddol a wnaeth yn ystâd Castle Reach in Kingsmead i gael Openreach i ariannu band eang ffeibr i'r safle, nad oedd wedi'i gynnwys yn rhaglen Cyflymu Cymru oherwydd bod yr ystâd wedi cael ei hadeiladu ar ôl i'r rhaglen gychwyn. Yr hyn nad oeddem yn ei wybod ar y pryd oedd nad oedd hynny ond yn cynnwys 165 o dai ar yr ystâd. Bydd 50 o dai eraill yn awr yn ceisio cael mynediad cymunedol at fand eang drwy gynllun Allwedd Band Eang Cymru, ac rwy'n gweithio gyda phreswylwyr a gwirfoddolwyr ar ran y preswylwyr. Yn ffodus, dylai arian Llywodraeth Cymru dalu am y tai hynny yn llawn.
Fodd bynnag, mae yna dai ar yr ystâd honno o hyd, nad oeddem yn gwybod amdanynt pan siaradodd arweinydd y tŷ ag Openreach, na fydd yn cael eu cynnwys. Credaf mai'r unig ffordd y gallwn ddatrys hyn yw drwy i Openreach a Taylor Wimpey, y datblygwr, weithio gyda'i gilydd. Felly, a gaf fi awgrymu bod arweinydd y tŷ, os yw hi'n fodlon, yn fy nghyfarfod, gydag Openreach, os ydynt yn fodlon, a chyda Taylor Wimpey, os ydynt yn fodlon, i ddatrys y mater hwn unwaith ac am byth ar yr ystâd hon a sicrhau bod cysylltedd band eang gan ystâd gyfan Castle Reach in Kingsmead? Ac unwaith eto, rwy'n gofyn iddi roi'r pwysau hwnnw arnynt, fel y gwnaeth hi mor dda ddiwedd y llynedd.
Iawn, rwy'n hapus iawn i'w cyfarfod, os yw hynny'n mynd i hwyluso'r broses. Mae yna nifer o broblemau, fel y gŵyr Hefin David, gydag ystadau a adeiladir o'r newydd a'r trefniadau rhwng yr adeiladwr tai ac Openreach—Openreach yw'r contractwr ar gyfer yr ystâd honno—a sut y mae'r cysylltiadau'n gweithio. Gall fod yn rhwystredig iawn i drigolion wrth i'r cabinetau gael eu galluogi a'u cyflwyno, ond rwy'n fwy na pharod i ddod i gyfarfod â'r adeiladwr tai ac Openreach i weld beth y gallwn ei wneud i hwyluso'r broses.
Rydw i wedi cysylltu â chi fel Gweinidog yn y gorffennol yn adrodd am broblemau efo band llydan yn Ynys Môn. Mi wnes i apêl yn ôl ym mis Ebrill am y wybodaeth ddiweddaraf. Mae gen i adroddiad arall—rwy'n siŵr y gallaf i yrru copi atoch chi. Mae'n amlwg bod yna nifer o ardaloedd sydd wedi colli allan o drwch blewyn, o bosibl, ar y rhaglen Cyflymu Cymru—mae ardaloedd Llanddona, Llansadwrn, Brynsiencyn, Cefniwrch a Rhyd-wyn yn rhai sydd wedi amlygu'u hunain.
Yn yr ardaloedd hynny, mi oedd gwaith wedi dechrau ar baratoi ar gyfer cysylltiad. Yn amlwg, mi oedd yna siom fawr o weld y rhaglen yn dod i ben heb i'r gwaith gael ei gwblhau. A ydych chi mewn sefyllfa i allu rhoi sicrwydd i'r etholwyr yma y byddan nhw'n flaenoriaeth—hynny yw, y bydd cwblhau gwaith a oedd wedi'i ddechrau yn flaenoriaeth o dan y rhaglen newydd, pan ddaw honno?
Ie, mae hwnnw'n fater i ni ei negodi â British Telecom—Openreach yw eu contractwr, wrth gwrs, felly mae'n bwysig peidio â drysu rhwng y ddau wrth i'r rhaniad ddigwydd. Y ffordd y gweithiodd y cynllun cyntaf, i egluro i'r Aelodau—. Mewn gwirionedd, cyfarfûm â Rhun ap Iorwerth yn ei etholaeth hefyd, gryn amser yn ôl erbyn hyn, onid oedd—roedd ychydig flynyddoedd yn ôl—i siarad am rai o'r problemau yno. Oherwydd y ffordd roedd y targed safleoedd yn y contract yn gweithio, ac am ei fod mor rymus, cysylltodd Openreach nifer fawr yn fwy o safleoedd nag oedd angen iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y ffigur hwnnw, oherwydd roedd y targed yn y contract yn llym iawn.
Mae hynny wedi golygu bod ganddynt lawer o seilwaith yn y ddaear. Ni chafodd unrhyw arian cyhoeddus ei ddefnyddio i dalu am unrhyw seilwaith na chafodd ei gwblhau. Felly, rydym wedi cael sgwrs hir gyda hwy ynglŷn â'r elfen fasnachol mewn perthynas â hynny—ynglŷn â phwy a ddylai dalu am hynny. Maent eisoes wedi buddsoddi'r arian hwnnw. A ddylai'r pwrs cyhoeddus dalu am y rhan olaf? Pam na allant ei wneud eu hunain? Mae angen trafodaeth, ac mae'r sgwrs honno'n mynd rhagddi ochr yn ochr â'r broses gaffael. Cawn weld beth fydd canlyniad y broses honno.
Felly, os yw BT yn un o'r rhai sy'n gwneud y cais caffael, diau y byddant yn gwneud rhai cynigion yn rhan o hynny. Fel y dywedais wrth Janet Finch-Saunders yn ddiweddar, rydym yn gofyn am addewidion penodol—cynlluniau penodol ar gyfer safleoedd penodol. Felly, buaswn yn synnu'n fawr pe na baent wedi'u cynnwys, ond rydym yng nghanol y broses gaffael yn awr, felly nid oes gennyf unrhyw wybodaeth ynglŷn â beth y maent yn ei gynnig ar hyn o bryd.