Prosiect Olynol Cyflymu Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:49, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Iawn, rwy'n hapus iawn i'w cyfarfod, os yw hynny'n mynd i hwyluso'r broses. Mae yna nifer o broblemau, fel y gŵyr Hefin David, gydag ystadau a adeiladir o'r newydd a'r trefniadau rhwng yr adeiladwr tai ac Openreach—Openreach yw'r contractwr ar gyfer yr ystâd honno—a sut y mae'r cysylltiadau'n gweithio. Gall fod yn rhwystredig iawn i drigolion wrth i'r cabinetau gael eu galluogi a'u cyflwyno, ond rwy'n fwy na pharod i ddod i gyfarfod â'r adeiladwr tai ac Openreach i weld beth y gallwn ei wneud i hwyluso'r broses.