2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 20 Mehefin 2018.
5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r gymuned LGBT? OAQ52337
Gwnaf, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi'r gymuned LHDT yng Nghymru. Mae camau gweithredu cysylltiedig yn cynnwys gwaith ar addysg rhywioldeb a pherthnasoedd, canllawiau gwrthfwlio wedi'u diweddaru a gwelliannau i'r gwasanaethau hunaniaeth rhywedd. Rydym hefyd yn darparu cyllid i Stonewall Cymru i gefnogi pobl LHDTC+ a gwella ein dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio arnynt.
Diolch i chi, arweinydd y tŷ. Roeddwn yn falch o rannu llwyfan trawsbleidiol gyda'r Prif Weinidog yn ddiweddar mewn digwyddiad a noddir gan PinkNews i ddathlu 30 mlynedd ers cyflwyno adran 28, a hefyd i groesawu'r cynnydd rydym wedi'i weld dros y blynyddoedd diwethaf gan lywodraethau o bob lliw wrth iddynt hyrwyddo hawliau'r gymuned LHDT. Fe sonioch am gyllid ar gyfer Stonewall Cymru, ac rwy'n siŵr y byddwch yn rhannu fy mhryderon fod ffigurau diweddaraf Stonewall Cymru—yn y cyfryngau heddiw, fel y mae'n digwydd—yn dangos bod mwy na thraean o weithwyr LHDT yng Nghymru yn cuddio eu rhywioldeb oherwydd eu bod yn ofni gwahaniaethu.
Roedd yna ystadegau eraill hefyd a oedd yn peri pryder, megis yr 16 y cant o bobl LHDT a oedd yn dweud eu bod yn darged i sylwadau neu ymddygiad negyddol yn y gweithle. Felly, yn amlwg, rydym wedi dod yn bell dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae gennym gryn dipyn o ffordd i fynd. Rydych eisoes wedi amlinellu rhai meysydd lle rydych yn gobeithio mynd i'r afael â phroblem gwahaniaethu yng Nghymru. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y bydd eich polisïau yn ymdrin yn benodol â'r math hwn o wahaniaethu, na ddylid bod unrhyw le iddo yn y gweithle modern.
Ie, cytunaf yn llwyr—ni ddylid bod unrhyw le o gwbl iddo yn y gweithle modern. Fel y dywedais mewn ymateb i gwestiynau cynharach, rydym wedi dychryn wrth weld ei fod yn dal i fod yn gymaint o destun pryder. Fel y dywedais yn fy ateb blaenorol, bydd gwaith yn mynd rhagddo gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i wneud yn siŵr fod y cynllun gweithredu economaidd yn nodi gwahaniaethu o bob math.
Rydym hefyd yn gweithio ar ein canllawiau gwrthfwlio. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y bydd addysg rhywioldeb a pherthnasoedd yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd, sy'n ymwneud ag addysg a derbyniad. Rydym hefyd yn cynnal ymgyrch 'Dyma Fi', yr ymgyrch yn erbyn stereoteipio ar sail rhywedd, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi cael croeso gan nifer fawr o sefydliadau ledled Cymru, i ddechrau ar y broses o sicrhau bod pobl yn gwybod nad yw'r math hwnnw o wahaniaethu yn dderbyniol. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud wrth unrhyw unigolyn sy'n profi hynny, wrth gwrs, yw y dylent roi gwybod amdano. Mae yna sefydliadau sy'n gallu helpu pobl i frwydro yn erbyn y math hwnnw o wahaniaethu yn y gweithle oherwydd, wedi'r cyfan, mae'n anghyfreithlon i wahaniaethu yn y ffordd honno yn erbyn pobl sydd â nodweddion gwarchodedig.