Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 20 Mehefin 2018.
Mewn tystiolaeth—i'r pwyllgor iechyd rwy'n credu—dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru fod penderfynyddion allweddol iechyd i raddau helaeth y tu allan i reolaeth gwasanaethau iechyd, ac felly, ansawdd, a gwariant ar ofal cymdeithasol yw un o'r pethau sy'n effeithio fwyaf ar y galw am ofal iechyd.
Efallai fod hynny'n datgan yr amlwg, o bosibl, ond mae'n ddatganiad a ddylai effeithio'n gryfach ar ein meddyliau ynghylch recriwtio a lles y gweithlu gofal cymdeithasol yn y tymor byr i'r tymor canolig, oherwydd mae'n ymwneud â mwy na gweithlu'r GIG. Os yw'r gweithlu gofal cymdeithasol yn methu, mae'n dinistio gallu gweithlu'r GIG i ymdopi â'r galwadau ychwanegol arnynt. Ac er fy mod yn derbyn, wrth gwrs, nad yw newidiadau diwylliannol a strwythurol mawr yn digwydd dros nos, ac yn cydnabod bod gwaith wedi dechrau bellach ar godi statws y gweithlu gofal cymdeithasol a phersonol drwy reoleiddio a hyfforddiant pellach, rydym yn dal i golli gweithwyr gofal i'r system iechyd oherwydd eu telerau ac amodau gwell yno, yn ogystal â'u colli i swyddi eraill gan fod gofal yn cael ei weld yn rhy aml fel math o swydd lefel mynediad dros dro i lenwi bwlch.
Yr hyn na wyddom yw faint a gollwn o ganlyniad i salwch, oherwydd nid ydym yn gwybod faint o bobl a gyflogir yn y sector hwn. Mae 6,000 neu fwy wedi'u cofrestru, fel y gwyddom, ond mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod tua 19,000 o weithwyr gofal cartref i'w cael sydd bellach yn gymwys i gofrestru. Ond mae adroddiad annibynnol ar werth economaidd gofal cymdeithasol i oedolion yn awgrymu bod yr amcangyfrif yn nes at 83,000 o weithwyr gofal ac mae'n fwy na thebyg fod 127,000 o swyddi wedi'u cysylltu'n anuniongyrchol â gofal cymdeithasol i oedolion. Ac os nad ydych yn gwybod pwy yw'r gweithwyr hyn ac yn methu eu cyrraedd, sut y gallwn sicrhau lles y fyddin gudd hon? Rydym yn gwybod am y meddygon teulu, ac yn awr rydym yn gwybod am y staff ambiwlans yn ogystal, ond faint o weithwyr gofal sy'n dioddef salwch meddwl oherwydd galwadau amser afrealistig, telerau ac amodau sy'n amrywio, lefelau cyflog isel—y teimlad hwnnw sy'n parhau mai ail orau ydych chi o gymharu â'r GIG? Faint sy'n gadael am y rhesymau hynny, pan allem fod yn eu cadw?
Ac os ydym yn gofyn am newid diwylliannol, os ydym yn gofyn i bobl ddod i fuddsoddi mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yr achos i'r cyhoedd yn gyson nad yw gofal cymdeithasol yn llai o beth na'r gofal meddygol neu nyrsio y gwyddom amdano ac i ddangos hynny. Felly, er y bydd Gweinidogion efallai'n disgwyl i Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru weithio 'fel un', i'w dyfynnu hwy, mae yna gwestiwn go iawn yn codi i mi ynglŷn â bod gwerth ffrydiau addysg y sefydliadau hyn ar wahân i'w gilydd, gan gadw'r risg y bydd un yn bwrw cysgod dros y llall. Dylai fod newydd-ddyfodiaid yn dod i ddechreuad y gwasanaeth integredig hwn heb ddim o'r hen rwystrau fod gofal iechyd yn fwy gwerthfawr na gofal cymdeithasol, ac yn sicr ym meysydd cyffredinol gofal sylfaenol, ni ddylai newydd-ddyfodiaid fod yn ymwybodol o unrhyw wahaniaeth, hyd yn oed os ydynt yn camu ymlaen i fod yn fwy arbenigol wrth i'w gyrfa fynd rhagddi.
Er yr holl waith da sy'n digwydd mewn clystyrau a chanolfannau amlddisgyblaethol eraill, y tueddiad o hyd yw i aelodau meddygol neu nyrsio arwain timau yn hytrach na'r rheini sydd â chefndir yn y gwasanaethau cymdeithasol, er bod rhai o'r rheini i'w cael wrth gwrs. Heb fodelau rôl, bydd newydd-ddyfodiaid yn etifeddu'r ymdeimlad presennol hwn o anghydraddoldeb rhwng y ddwy ran angenrheidiol o ofal, a chan ein bod wedi colli 5,000 o swyddi mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn y saith mlynedd diwethaf, pwy sy'n annog y rheini sydd wedi dilyn y llwybr gwasanaethau cymdeithasol i wthio am arweinyddiaeth yn y gwasanaethau integredig hynny?
Nawr, 'gofal' yw'r gair rydym yn ei ddefnyddio yma, ac ni all gofal sylfaenol barhau i gael ei weld fel rhywbeth cwbl feddygol, neu'n ymwneud yn unig â nyrsio neu weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd hyd yn oed. Rhaid rhoi gwerth cyfartal ar ofal cymdeithasol a phersonol o fewn y diffiniad hwnnw. Ddoe, roeddem yn ddigon ffodus i gael ymweliad gan ysgol gynradd Griffithstown, a ddaeth i'r grŵp trawsbleidiol ar ddementia i siarad am y gwaith pontio'r cenedlaethau gwych y maent yn ei wneud. Dywedodd rhai o'r merched—neb o'r bechgyn, yn ddiddorol—y byddent yn hoffi dod yn nyrsys dementia. Ni soniodd neb am ddod yn feddyg ymgynghorol neu ymchwilydd neu weithiwr gofal neu rywun sy'n rhedeg cartref gofal neu wasanaeth gofal cartref neu rywun sy'n helpu i gadw pobl yn iach yn y cartref pan fydd ganddynt ddementia. Ac nid wyf yn beio'r plant hynny o gwbl, ond maent wedi clywed am nyrsys; nid ydynt wedi clywed am ofal cymdeithasol. A heb unrhyw eglurder ynglŷn â sut olwg fydd ar bethau yn y dyfodol, credaf ei bod yn eithaf anodd paratoi newydd-ddyfodiaid a darbwyllo gweithwyr presennol i newid yr hyn y maent yn ei wneud, sy'n brofiad eithaf anodd ynddo'i hun, a sut y gall Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru fod yn sicr y bydd yr hyn y maent yn hyfforddi ar ei gyfer yn briodol ar gyfer modelau gofal yn y dyfodol? Ac wrth gwrs, modelau fydd gennym—yn y lluosog—oherwydd bydd hyn yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Yn olaf, rwyf am orffen ar bwnc darparwyr y trydydd sector. Deuthum ar draws sefyllfa ddoe lle roedd cynllun yn talu nifer fach o bersonél y trydydd sector sydd ag arbenigedd cydnabyddedig i helpu unigolion i gael hyder i wneud penderfyniadau priodol am eu hanghenion gofal yn hytrach na ffonio 999. I dorri stori hir yn fyr, maent yn colli eu cyllid, rydym yn colli arbenigedd yr aelodau hynny o'r gweithlu gofal yn ogystal â'r holl fuddion, a hoffwn rywfaint o sicrwydd, os gallwch ymateb i hyn heddiw, ynglŷn â sut y bydd ein gweithwyr gofal o'r trydydd sector, a sectorau eraill os hoffech, yn cael eu cadw a sut y gallwn edrych ar eu holau os na wyddom eu bod yn bodoli hyd yn oed.