8. Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:44, 20 Mehefin 2018

Rydw i’n falch iawn i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma. Yn dilyn o beth mae Suzy Davies wedi’i ddweud, fe wnaf i ddechrau gyda’r pwynt cyntaf, sef pwysigrwydd allweddol gofal cymdeithasol. Nawr, fel meddyg, buasech chi’n disgwyl i mi fynd ymlaen ac ymlaen am y gwasanaeth iechyd, ond fel sydd wedi cael ei ddweud sawl tro yn y Siambr yma, heb ofal cymdeithasol, mi fydd y gwasanaeth iechyd yn dadfeilio hefyd, felly mae eisiau dechrau efo hynny. Yn bersonol, ac yn gynyddol, mae fy mhlaid i’n ffafrio creu gwasanaeth gofal cenedlaethol. 

Mae gennym ni wasanaeth iechyd cenedlaethol. Nôl yn y 1930au, roeddem ni’n edrych ar iechyd, ac roedd e'n wasgaredig—ar wahân. Roedd yna elfennau llywodraeth leol yn darparu iechyd, roedd yna elfennau elusennol, roedd yna elfennau preifat yn darparu gwasanaeth iechyd. Roedd yn rhaid ichi dalu i weld eich meddyg teulu, er enghraifft. Fast-forward i nawr, a phan rydych chi’n edrych ar y sector gofal, mae yna elfennau’n cael eu darparu gan lywodraeth leol, mae yna elfennau’n cael eu darparu gan y sector breifat, mae yna elfennau’n cael eu darparu yn elusennol. Beth am ddod â nhw at ei gilydd? Achos os oedd e’n ddigon da i’r gwasanaeth iechyd, yn bendant mae’n ddigon da i gael gwasanaeth gofal ar yr un un math o linellau. Buasai hynny’n dod â’r sawl sy’n gweithio yn y gwasanaeth gofal ar yr un lefel o barch â’r sawl sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Fel rydych chi wedi crybwyll eisoes, mae pobl yn wastad yn edrych ar nyrsys a meddygon gyda rhyw lefel o barch sydd yn uwch na’r sawl sydd yn darparu gwasanaeth gofal. Rydym ni wedi llwyddo dros y blynyddoedd i israddio gwerth gofal yn ein cymdeithas, ac eto, hwnnw ydy’r pwynt allweddol mwyaf pwysig—y gallu yna i ymdrin â phobl, i fod yn dosturiol efo pobl, i fod yn garedig efo pobl arall, a’r gwasanaeth gofal ydy hynny. Rydym ni wedi colli hynny efo’r ffordd rydym ni’n ymdrin â phobl, efo’n cleifion, ddim jest yn y gwasanaeth iechyd ond hefyd yn ein gwasanaeth gofal.

Ac, ydy, mae hynny’n golygu, yn bendant, yn ein gwasanaeth gofal, efo'r nifer cynyddol o bobl sy’n dioddef o ddementia ac ati, fod angen darparu’r gwasanaeth hwnnw’n gynyddol drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, achos efo dementia, yr iaith rydych chi wedi'i dysgu yn eilradd sydd yn mynd gyntaf. Hynny yw, i’r sawl sydd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf pan maen nhw’n datblygu dementia, dim ond Cymraeg maen nhw’n gallu siarad pan maen nhw wedi datblygu dementia. Ac mae yna sawl math o strôc sydd yn cael yr un un math o effaith. Rydych chi’n colli’r gallu i siarad yn eich ail iaith. Mae yna nifer o wledydd dros y byd efo’r un un math o brofiad. Pan rydych chi mewn gwledydd sydd yn siarad mwy nag un iaith, rydych chi'n colli’r gallu i siarad eich ail iaith—efo dementia, yn gynyddol, ac efo strôc.

Felly, mae’n rhaid inni fod yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cynllunio ein gweithlu i adlewyrchu ein cymdeithas. Mae yna dros 0.5 miliwn o siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru; rydym ni’n anelu at darged o gael 1 filiwn ohonyn nhw, ac felly dylai ein gweithlu ni yn y gwasanaeth gofal, yn ogystal ag yn y gwasanaeth iechyd, adlewyrchu’r pwynt sylfaenol yna. Yn ogystal â beth ddywedodd Rhun ap Iorwerth, rŷch chi’n gwella safon y dadansoddiad—y diagnosis—pan rydych chi’n gallu ymgysylltu efo rhywun yn ei mamiaith. Rydych yn dod i ddeall y diagnosis, ac rydym yn dod i’r diagnosis, fel meddygon a nyrsys, 90 y cant o’r amser ar sail beth mae’r claf yn dweud wrthym ni ar sail ei hanes. Ac felly, os ydych chi’n cael gwell ansawdd hanes, rydych chi’n dod i’r dadansoddiad yn gynt, heb, felly, orfod cael profion gwaed, pelydr x, uwchsain ac yn y blaen. Mae’r ddarpariaeth yna, felly, yn arbed arian yn y pen draw.

Fe wnaf i jest gorffen yn nhermau amser. Fel meddygon iau yn ein hysbytai, maen nhw o dan bwysau affwysol. Mae yna alw i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth iechyd yn gorfforaethol yn edrych ar ôl ei staff. Wel, buaswn i’n gwneud ple arbennig y dyddiau hyn i edrych ar ôl ein meddygon ifanc ni yn ein hysbytai. Rydw i wedi sôn am hyn o’r blaen. Nôl yn y dydd pan oeddwn i’n feddyg ifanc mewn ysbytai, roedd yna elfen deuluol—roedd yr arbenigwyr yn edrych ar ein holau ni. Roedd y gweinyddwyr yn edrych ar ein holau ni. Roedd pawb yn edrych ar ein holau ni. Rydym ni wedi colli’r elfen yna rŵan. Mae ein meddygon iau ni yn cwyno eu bod nhw’n cael eu gorweithio. Mae disgwyl iddyn nhw lenwi bylchau yn y rota pan maen nhw ar eu cluniau eisoes. Maen nhw’n gorfod ymladd am ddyddiau i ffwrdd i astudio, ymladd am ddyddiau i ffwrdd i sefyll arholiadau, ymladd am ddyddiau i ffwrdd hyd yn oed i briodi. Nid ydy hyn yn deg. Dyma ddyfodol ein gweithlu meddyg teulu ni. Rydym ni i gyd yn dechrau bant fel meddygon iau mewn ysbyty, ond os ydym ni’n colli’r rheini, os ydyn nhw'n symud dros y dŵr i fod yn feddygon yn Awstralia ac ati, lle maen nhw’n cael gweithio’n llai caled ac am lawer mwy o bres, ac nid yw Bondi Beach yn bell i ffwrdd, nid oes rhyfedd bod y gweithlu yn gadael. Mae eisiau paratoi ar gyfer y dyfodol drwy ymdrin â’n meddygon iau yn llawer gwell. Diolch yn fawr.