Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 20 Mehefin 2018.
Rwy'n ddiolchgar iawn ichi am dderbyn ymyriad, ac rwy'n datgan ar goedd fod fy ngwraig yn aelod o staff y GIG. A allwch chi ddweud wrth staff y GIG yng Nghymru felly pa bryd y byddant yn cael y cynnydd hwnnw a beth fydd yn talu amdano? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae eich Llywodraeth eich hun yn Llundain yn dweud, 'Codiadau yn y dreth'. Dyna ni—atalnod llawn. Ni chawn unrhyw syniad pa bryd y mae'n mynd i ddod na manylion hyn oll. Breuddwyd gwrach yw'r cyfan ar hyn o bryd.