Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 26 Mehefin 2018.
Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad heddlu cudd, a lansiwyd yn 2015, rwy'n credu, gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, yn dweud y byddai'r ymchwiliad yn cynnwys pa un a ac i ba ddiben, i ba raddau ac i ba effaith yr oedd ymgyrchoedd heddlu cudd wedi targedu ymgyrchwyr gwleidyddol a chyfiawnder cymdeithasol, ond ni fyddai wedi ei gyfyngu i hynny. Fodd bynnag, nid yw'n gwneud unrhyw gyfeiriad penodol at y menywod lawer a dwyllwyd i berthynas rywiol gan swyddogion heddlu cudd. Pa sylwadau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud i'r ymchwiliad ar ran menywod yng Nghymru y camfanteisiwyd arnyn nhw yn y modd hwn, neu, os na wnaed sylwadau, a allwch chi esbonio pa gyfyngiadau ar ymyrraeth Llywodraeth Cymru allai fodoli yn hyn o beth?