1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Mehefin 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i fenywod yng Nghymru y mae'r heddlu cudd ('spycops') wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol? OAQ52395
Mae'n bwysig bod menywod sy'n cael eu heffeithio gan y mater hwn yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Deallaf na ddisgwylir i'r ymchwiliad y mae Llywodraeth y DU wedi ei roi ar waith adrodd tan 2023.
Diolch am yr ymateb yna. Y rheswm pam yr oeddwn i'n gofyn y cwestiwn hwn oedd oherwydd fy mod i'n credu ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn estyn allan at rai o'r menywod o Gymru sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr ymgyrch hon—yr uned sgwad arddangos arbennig o fewn yr heddlu a ymdreiddiodd grwpiau gweithredu, ac yna, yn amlwg, fe wnaeth y swyddogion yr heddlu hynny ymddwyn yn amhriodol gyda'r menywod hynny wedyn. Roedd Lisa gyda Mark Stone. Darganfu hyn yn 2010. Plismon cudd o'r enw Mark Kennedy oedd ef. Roedd Rosa, ymgyrchydd gwrth-hiliaeth, mewn perthynas gyda Jim Sutton/Jim Boyling, a gafodd ddau o blant gyda hi. Mae wyth o fenywod yn cymryd camau ac mae gennym ni ddigwyddiad heno yn y Pierhead gyda'r ddwy fenyw dan sylw hyn. Rwy'n gofyn beth y gallwch chi ei wneud fel Llywodraeth i gefnogi'r menywod hyn yn yr ymchwiliad cyhoeddus hwn i wneud yn siŵr nad oes dim fel hyn byth yn digwydd i fenywod Cymru eto, fel nad ydyn nhw'n cael eu bradychu fel hyn, a sut y gallwn ni fynd ati i newid yr arferion o fewn yr heddlu fel ein bod ni'n sicrhau os oes angen iddyn nhw weithredu'n gudd, ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd foesegol a phriodol?
A gaf i yn gyntaf oll longyfarch yr Aelod am gynnal digwyddiad heno a chodi mater pwysig iawn yr wyf i'n amau nad oes llawer o'r cyhoedd yn ymwybodol ohono o hyd? Nawr, bydd cryn amser—pum mlynedd mae'n ymddangos—cyn y bydd yr adroddiad yn barod. Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae'n bwysig darparu gwasanaethau i'r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio. Yr hyn y gallaf i ei ddweud yw ein bod ni'n ariannu, wrth gwrs, llinell gymorth Byw Heb Ofn, a reolir gan Cymorth i Fenywod Cymru. Bydd y rhai hynny sy'n cysylltu â'r llinell gymorth yn cael gwrandawiad, yn cael eu credu ac yn cael cynnig cymorth a chefnogaeth. Mae'n darparu cymorth a chyngor i ddioddefwyr trais a chamdriniaeth, yn ogystal â'u ffrindiau a'u perthnasau, ac ymarferwyr. Felly, mae'r cymorth yno, ond mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, pan fydd yr ymchwiliad yn adrodd, ei fod yn gwneud argymhellion cadarn i sicrhau nad yw arferion annerbyniol yn cael eu hailadrodd.
Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad heddlu cudd, a lansiwyd yn 2015, rwy'n credu, gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, yn dweud y byddai'r ymchwiliad yn cynnwys pa un a ac i ba ddiben, i ba raddau ac i ba effaith yr oedd ymgyrchoedd heddlu cudd wedi targedu ymgyrchwyr gwleidyddol a chyfiawnder cymdeithasol, ond ni fyddai wedi ei gyfyngu i hynny. Fodd bynnag, nid yw'n gwneud unrhyw gyfeiriad penodol at y menywod lawer a dwyllwyd i berthynas rywiol gan swyddogion heddlu cudd. Pa sylwadau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud i'r ymchwiliad ar ran menywod yng Nghymru y camfanteisiwyd arnyn nhw yn y modd hwn, neu, os na wnaed sylwadau, a allwch chi esbonio pa gyfyngiadau ar ymyrraeth Llywodraeth Cymru allai fodoli yn hyn o beth?
Wel, yn y pen draw, mater i Lywodraeth y DU yw hwn, er ei fod yn cymryd llawer iawn o amser, mae'n rhaid i mi ddweud. Ym mis Mawrth 2015, fel y dywed yr Aelod yn gywir, y cyhoeddwyd yr ymchwiliad. Bydd o bosibl yn cymryd wyth mlynedd cyn iddo adrodd, am resymau nad ydynt yn eglur. Bydd yr ymchwiliad ei hun yn ystyried y defnydd o swyddogion yr heddlu mewn swyddogaethau cudd. Fe'i sefydlwyd yn dilyn y ddadl ynghylch ymddygiad swyddogion cudd. Nawr, bydd yr ymchwiliad yn gwneud argymhellion, fel y deallaf, ynglŷn â sut yr ymgymerir â phlismona cudd a bydd yn craffu ar y defnydd o swyddogion cudd gan SDS, sydd wedi ei ddiddymu erbyn hyn, a'r Uned Cudd-wybodaeth Trefn Gyhoeddus Genedlaethol. Nawr, ymhlith yr honiadau, wrth gwrs, mae'r cyhuddiad bod swyddogion cudd wedi mabwysiadu hunaniaethau ffug oddi wrth blant marw, wedi cael perthynas gyda'r ymgyrchwyr ac wedi cenhedlu plant. Mae'r rheini ar y cofnod. Byddai'n fy nharo i'n hynod anodd ei ddeall pe na byddai'r ymchwiliad ei hun yn ystyried y materion hynny hefyd er mwyn darparu adroddiad cynhwysfawr.