Heddlu Cudd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:33, 26 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, yn y pen draw, mater i Lywodraeth y DU yw hwn, er ei fod yn cymryd llawer iawn o amser, mae'n rhaid i mi ddweud. Ym mis Mawrth 2015, fel y dywed yr Aelod yn gywir, y cyhoeddwyd yr ymchwiliad. Bydd o bosibl yn cymryd wyth mlynedd cyn iddo adrodd, am resymau nad ydynt yn eglur. Bydd yr ymchwiliad ei hun yn ystyried y defnydd o swyddogion yr heddlu mewn swyddogaethau cudd. Fe'i sefydlwyd yn dilyn y ddadl ynghylch ymddygiad swyddogion cudd. Nawr, bydd yr ymchwiliad yn gwneud argymhellion, fel y deallaf, ynglŷn â sut yr ymgymerir â phlismona cudd a bydd yn craffu ar y defnydd o swyddogion cudd gan SDS, sydd wedi ei ddiddymu erbyn hyn, a'r Uned Cudd-wybodaeth Trefn Gyhoeddus Genedlaethol. Nawr, ymhlith yr honiadau, wrth gwrs, mae'r cyhuddiad bod swyddogion cudd wedi mabwysiadu hunaniaethau ffug oddi wrth blant marw, wedi cael perthynas gyda'r ymgyrchwyr ac wedi cenhedlu plant. Mae'r rheini ar y cofnod. Byddai'n fy nharo i'n hynod anodd ei ddeall pe na byddai'r ymchwiliad ei hun yn ystyried y materion hynny hefyd er mwyn darparu adroddiad cynhwysfawr.