– Senedd Cymru am 2:19 pm ar 26 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Ceir sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiadau llafar heddiw ar forlyn llanw bae Abertawe a'r cyhoeddiad diweddar gan Grŵp Airbus. O ganlyniad, bydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg gychwynnol i athrawon yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Ac, yn olaf, Llywydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ychwanegol brynhawn yfory ar gynnig heb ddyddiad trafod a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Fel arall, mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Arweinydd y tŷ, a gaf i godi dau fater gyda chi, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Roeddwn i'n ddiolchgar am yr eglurder a ddangosodd y Prif Weinidog yn y cwestiynau a ofynnais iddo yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd dros iechyd gyflwyno datganiad am y defnydd o opiadau yn y GIG yng Nghymru a'r canllawiau sydd ar gael yn gyffredinol. Mae rhai o'r straeon sydd wedi dod allan a'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf wedi codi pryderon gwirioneddol a difrifol ym meddyliau cleifion a chlinigwyr, a byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai datganiad ynghylch defnyddio opiadau i leddfu poen, yn enwedig yn y sector gofal lliniarol, fod ar gael gan yr Ysgrifennydd dros iechyd er mwyn i'r Aelodau a'r cyhoedd allu ei weld.
Ac, yn ail, fe wnaethoch chi ddweud yr wythnos diwethaf, pan godais y cwestiwn gyda chi ynghylch yr Ysgrifennydd Parhaol a'i hymgysylltiad â ni ynghylch materion yn yr ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, y byddech yn gwneud sylwadau i'r Ysgrifennydd Parhaol. Gan nad ydym ni wedi clywed unrhyw beth, tybed a ydych chi mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch unrhyw wybodaeth sydd ar ddod, gan nad wyf yn credu, hyd yma, fy mod wedi gweld yr wybodaeth honno yn dod ar gael.
Ie, ar yr un cyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei fod yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau drwy gyfrwng datganiad ysgrifenedig ar y sefyllfa honno. Ac ar yr ail, yn anffodus, nid oedd yn bosibl i'r cyfarfod â'r Ysgrifennydd Parhaol gael ei gynnal yr wythnos diwethaf oherwydd problemau gyda fy nyddiadur, ond cyn gynted ag y gwelaf i hi, a gobeithio y bydd hynny yr wythnos hon, byddaf yn ei ddwyn i'w sylw.
Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am drefnu lle ar gyfer y ddadl ddienw yfory? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gan y Cynulliad gyfle i drafod nid yn unig bod gennym ddatganiad ar y morlyn llanw heddiw, ond i drafod mewn gwirionedd yr amgylchiadau gwleidyddol a arweiniodd at y penderfyniad hwn. Yn amlwg, mae Plaid Cymru yn teimlo, yn ein cynnig, nad oes gennym ffydd bellach yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru nac, yn wir, yn y swydd, mewn gwirionedd, nac yn y ffordd y defnyddir y swydd honno, yn hytrach na fel pont rhwng y lle hwn a San Steffan i gyflawni uchelgeisiau Cymru, fel rhwystr a giât rhwng ein huchelgeisiau ni a rhai San Steffan. Felly, credaf y bydd y bleidlais yfory yn bwysig iawn. Rwyf ar ddeall ei bod yn agored i welliannau heddiw. Rwy'n siŵr na fydd y Llywodraeth yn cytuno â phob agwedd yr ydym ni wedi ei chymryd yn hyn o beth, ond rwy'n gobeithio na fyddwch chi'n dirymu'r cynnig yfory ac y byddwn ni'n anfon neges gref iawn at yr Ysgrifennydd Gwladol am ei berthynas â'r lle hwn fel Senedd, ond hefyd o ran y ffordd y mae'n gweithredu ar ein rhan yn Llundain. Rwy'n credu mai ein dyletswydd ni yw anfon y neges honno yn dilyn y digwyddiadau y byddwn yn eu trafod ymhellach y prynhawn yma. Diolch i chi unwaith eto am gyflwyno'r datganiad ar y morlyn llanw fel y gallwn gael dadl yn y dyfodol.
A gaf i ofyn dim ond un neu ddau o bethau penodol ynghylch sut y gallai'r Llywodraeth ymdrin â busnes dros yr ychydig wythnosau nesaf? Yn gyntaf oll, rwyf ar ddeall bod Bil yr UE (Ymadael) wedi dod yn Ddeddf heddiw, a bod John Bercow, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, wedi nodi cydsyniad y Frenhines i'r Bil. Felly, gan fod gennym ni Ddeddf yr UE (Ymadael) rwy'n cymryd, oni bai y byddwch yn dweud wrthyf yn wahanol, y bydd y cytundeb rhynglywodraethol, yr ydych wedi ei gytuno â Llywodraeth San Steffan yn dod i rym, a byddwch felly yn ceisio diddymu y gyfraith sy'n deillio o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, sydd hefyd yn Ddeddf, wrth gwrs. Felly, mae gennym ni ddwy Ddeddf nawr nad ydyn nhw o angenrheidrwydd yn cydweddu â'i gilydd, neu, o leiaf, nad ydyn nhw'n cydweddu â chytundeb rhynglywodraethol.
A allwch chi egluro i ni beth fydd y broses a ddefnyddir i wneud hyn ddigwydd? Sut y caiff Bil ei dynnu'n ôl? Nid ydym wedi gwneud hyn o'r blaen. Felly, sut yr ydym ni'n tynnu Bil yn ôl, sydd wedi dod yn Ddeddf, mewn gwirionedd? Pa ymgynghoriad a fydd? Sut y bydd hynny'n digwydd? Beth fydd y dadleuon—? Pa ran, yr ydych chi'n ei ragweld, y bydd y Senedd hon yn ei chwarae yn hynny o beth? Sut byddwn ni'n sicrhau'r drafodaeth ehangaf bosibl ynglŷn â hynny? Yn amlwg, rydych chi wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw fel cytundeb rhynglywodraethol, ond bydd gan rai ohonom wahanol safbwyntiau ar hynny, a byddwn ni'n awyddus i sicrhau y dilynir y prosesau priodol a'n bod ni'n cael dweud ein dweud ar hyn. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi yn fawr iawn pe byddech chi'n cyflwyno sut yr ydych chi'n bwriadu sicrhau, yn eich barn chi, y bydd y Ddeddf nawr yn cael ei thynnu'n ôl.
Yr ail beth yr hoffwn i ei godi gyda chi yn fyr—sydd eisoes wedi'i drafod, ond nid yr agwedd benodol hon—yw'r broblem o ran gamblo. Mae gennym ni, ac mae llawer ohonom ni'n ei groesawu, y terfyn £2 ar y peiriannau ods sefydlog. Roeddem ni'n siomedig iawn i ddeall bod hynny bellach yn mynd i gael ei ymestyn i o leiaf 2020. Felly, nid yw Llywodraeth San Steffan am wneud dim am ddwy flynedd o leiaf ar hyn. Mae gennym ni argymhellion cryf iawn gan ein prif swyddog meddygol. Mae gennym ni addewid wedi'i lofnodi gan aelodau o bob plaid, addewid traws-bleidiol ar grŵp trawsbleidiol yma i weithredu ar hyn. Byddai'n ddiddorol gwybod pa un a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad deddfwriaethol— neu fwriad rheoleiddio—i ddefnyddio'r pwerau cyfyngedig ond pwysig er hynny sydd gennych chi erbyn hyn i ymdrin â'r pla peiriannau ods sefydlog. Drwy ohirio am ddim ond dwy flynedd, amcangyfrifir y bydd siopau betio yn elwa ar £4 biliwn. Dyna faint y busnes hwn erbyn hyn, ac mae dioddefaint difesur y rhai sy'n mynd yn gaeth i hapchwarae trwm o'r fath yn amlwg a chafodd ei arddangos yr wythnos diwethaf yn y gynhadledd yn y Pierhead. Felly, beth y mae'r Llywodraeth yn debygol o'i wneud, a pha gamau yr ydym ni'n debygol o'u gweld ar hapchwarae?
Wel, yn y traddodiad hen a pharchus, Llywydd, o fynd i'r afael â materion o chwith, ar yr un gamblo, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau hefyd at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu am hyn. Mae'r peiriannau betio ods sefydlog—ni allaf i byth ddweud hynny'n iawn—yn bla llwyr, ac, wrth gwrs, yn ymosod ar rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas. Mae'r Prif Weinidog newydd ateb rhai cwestiynau ynghylch hynny.
Credaf fod pryder ar draws y Llywodraeth am hyn. Mae problem enfawr gyda hysbysebu ar-lein, ac er bod yr Awdurdod Safonau Hysbysebu wedi nodi ei fod yn ymosod ar hysbysebion sy'n targedu plant yn benodol, er hynny, os ydych chi'n chwarae ar-lein, byddwch chi'n gweld yr hysbysebion hynny drwy'r amser. Rwyf i'n eu gweld drwy'r amser. Felly, rydym ni'n bryderus iawn am hynny, a, Llywydd, byddaf yn gwneud yn siŵr y byddwn ni'n cyflwyno datganiad o ryw fath yn nodi beth y gellir ei wneud yng nghyd-destun ymateb y Prif Weinidog i'r cwestiwn yn gynharach, gan fy mod yn credu bod hwn yn fater o bryder sylweddol ac mae'r oedi yn peri cryn bryder.
O ran Deddf yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n edmygu gwahoddiad Simon Thomas i mi nodi holl fanylion hynny, ond, Llywydd, ni fyddaf yn trethu eich amynedd drwy geisio gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae gan y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad cyn bo hir a fydd yn rhoi'r cyfle i'r Aelodau ei holi'n fanwl ar yr union sefyllfa ddeddfwriaethol. Rwy'n credu mai dyna'r lle priodol i drafod hyn.
O ran y morlyn llanw, mae gennym ni ddatganiad y prynhawn yma, a, Llywydd, nid wyf yn credu fy mod i wedi cuddio'r ffaith nad wyf yn ystyried bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ennill unrhyw fri o gwbl o ran sefyll dros Gymru mewn penderfyniadau buddsoddi yn Llywodraeth y DU. Byddwn ni'n ei ddiwygio gan fod rhai materion cyfansoddiadol yn bodoli, ond credaf fod pawb yn gyfan gwbl o'r un farn.
Rwy'n gwybod bod arweinydd y tŷ yn gwybod pa mor anhygoel oedd yr achlysur yma yn y Senedd ddydd Gwener diwethaf, pryd y gwnaethom ni ddathlu'r genhedlaeth Windrush, a pha mor wefreiddiol oedd clywed am gyfraniad yr holl bobl hynny a ddaeth i'r Senedd. Ac, yn amlwg, mae 70 mlynedd ers y daeth y Windrush i'r DU, ac roedd yn arbennig o emosiynol, yn fy marn, cael clywed gan yr henaduriaid, a chlywed am eu cyfraniad. Rwy'n credu mewn gwirionedd bod y pwynt wedi ei wneud yn y cyfarfod: pam na wnaethom ni ddathlu 50 mlynedd? Pam na wnaethom ni ddathlu 60 mlynedd? Rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod pam yr ydym ni'n dathlu 70 mlynedd. Felly, tybed a allem ni gael datganiad am unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gydnabod cyflawniadau cenhedlaeth hŷn Windrush.
Oedd, roedd e'n brofiad gwirioneddol emosiynol, ac mewn gwirionedd, pan es i ati i siarad, Llywydd, roeddwn i, mewn gwirionedd, yn atal ychydig ddagrau oherwydd fy mod i'n dilyn araith un o'r henaduriaid yn amlinellu ei gyfraniad. Roedd e'n emosiynol iawn, a chredaf ein bod ni i gyd yn teimlo'n emosiynol am rai o'r straeon personol. Rwy'n ddiolchgar iawn i Joyce Watson—nid wyf yn credu ei bod hi yn y Siambr ar hyn o bryd—a ddaeth i lawr i'r digwyddiad yn Abertawe ddydd Sadwrn pan oedd gan rai o'r henaduriaid ychydig mwy o amser i ymhelaethu ar rai o'u straeon, a oedd hefyd yn emosiynol iawn.
Byddaf yn trafod gyda chydweithwyr yn y Cabinet sydd â diddordeb yn hyn rhai o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud. Rydym ni'n noddwr platinwm ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon eleni i wneud yn siŵr eu bod yn cael rhannu rhai o'r hanesion llafar, ac rwy'n edrych ar ffyrdd o wneud yn siŵr bod yr henaduriaid yn ymweld â dociau Tilbury, oherwydd bod problem ynghylch pa un a fyddai rhai ohonyn nhw yn cael gwneud hynny. Rwy'n credu bod un o'r henaduriaid yn dweud yn gadarn iawn mai dyma'r lleiaf y gallem ni ei wneud i gydnabod eu cyfraniad i gymdeithas Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfle i gyfrannu yn y modd y maen nhw'n ei weld yn addas. Felly, rwy'n ymchwilio ac yn mynd ati i sicrhau y gall y daith honno ddigwydd.
Dywedodd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething rywbeth cofiadwy iawn ar yr achlysur hefyd, mewn gwirionedd, sef bod yn rhaid cofio bod gennym ni ffordd bell i fynd. Nid oes rhaid i chi mond edrych o amgylch y Siambr hon, Lywydd, i weld faint o ffordd sydd gennym ni i fynd i gyflawni amrywiaeth. Un o'r pethau a ddywedodd, ac rwy'n awyddus iawn i gydweithredu gydag ef ac eraill ar hynny, yw sicrhau bod gennym ni'r ysgolion iawn—y cynlluniau mentora a'r cynlluniau llwybr—i wneud yn siŵr bod pobl ifanc o bob rhan o gymdeithas Cymru yn dod ymlaen ac yn cymryd eu lle haeddiannol, gan adeiladu ar waith anhygoel y genhedlaeth Windrush a henaduriaid eraill a wnaed mewn amgylchiadau a oedd yn galonogol ond hefyd yn gywilyddus mewn rhyw ffordd.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar faint o sganiau delweddu atseiniol magnetig amlbarametrig i ganfod canser y brostad yng Nghymru? Yn ôl adroddiad gan Prostate Cancer Wales, mae canfod y canser yng Nghymru yn arafach nag yn Lloegr, lle'r oedd 92 y cant yn cael sgan cyn biopsi. Yng Nghymru, dim ond tri allan o'r saith Bwrdd Iechyd sy'n darparu'r sgan, a all leihau amser diagnosis canser y brostad o wythnosau i ychydig ddyddiau. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y defnydd o sganiau mpMRI yn cael ei adolygu, ond a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi amserlen ar gyfer yr adolygiad hwn, a allai gael effaith sylweddol ar gyfraddau goroesi canser y brostad yng Nghymru?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi wrthyf ei fod yn fodlon iawn i ysgrifennu at yr Aelodau ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am yr amserlenni.
Arweinydd y tŷ, er gwaethaf y ffyrnigrwydd diatal y mae pobl Abertawe yn ei deimlo am y penderfyniad ar y morlyn llanw ddoe—ond mwy am hynny yn nes ymlaen, yn amlwg—mater gwahanol: byddwch yn gwbl ymwybodol bod angen taer am atebion i drafnidiaeth yn ardal Bae Abertawe. Nid yw lefel tagfeydd na chyfraddau damweiniau ar yr M4 o amgylch Abertawe a Port Talbot yn ein helpu i ddenu cwmnïau i'r de-orllewin—rwyf wedi codi hyn gyda chi o'r blaen— ac maen nhw'n ffynhonnell glir o rwystredigaeth yn lleol. Yn wir, dim ond y bore yma, cawsom ddamwain amlgerbyd arall ar yr M4, a achosodd anhrefn traffig ar y ffyrdd o gwmpas Abertawe.
Yn amlwg, mae gan Metro Bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol y potensial i weddnewid teithio lleol a helpu i ddatblygu dulliau amgen i deithio ar ffyrdd yn y rhanbarth. Fodd bynnag, nid wyf yn clywed llawer am gynnydd yn y maes hwn. Yn fy ymdrechion i ymgysylltu â Chyngor Abertawe, sef yr awdurdod arweiniol yn y rhanbarth sy'n ymwneud â datblygu strategaeth amlinellol ar gyfer achos busnes ar gyfer y metro hwn, rwyf ar ddeall bod y strwythurau prosiect, ffrydiau gwaith a strategaeth ymgysylltu yn dal i fod heb eu cytuno gan y gwahanol awdurdodau o fewn y rhanbarth. Mae pobl yn lleol yn crefu am system drafnidiaeth gyhoeddus briodol, felly mae angen i ni weithredu'n gyflymach.
O gofio pwysigrwydd strategol y de-orllewin o ran trafnidiaeth, a yw Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth felly yn fodlon cyflwyno datganiad ar y mater hwn, gan amlinellu'n glir y canlyniadau allweddol y mae'n disgwyl eu gweld, faint o weithio ar y cyd fydd yn digwydd rhwng yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, a'r terfynau amser allweddol? Diolch yn fawr.
Llywydd, hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad llwyraf i deuluoedd y bobl a gafodd eu lladd, yn anffodus, yn y ddamwain angheuol ar yr M4 yn ddiweddar iawn. Straeon torcalonnus—rydym i gyd yn gwybod pa mor ofnadwy gall y fath beth fod. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi wrthyf bod cynnydd da yn cael ei wneud, ac mae'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau drwy lythyr.
Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol erbyn hyn fod ASau wedi pleidleisio neithiwr o blaid cynlluniau i adeiladu trydedd rhedfa ym Maes Awyr Heathrow Llundain. Rwy'n dal o blaid y prosiect hwn ac rwy'n falch iawn â chanlyniad ddoe, yn enwedig oherwydd y buddion rhanbarthol, y manteision i Alun a Glannau Dyfrdwy fel etholaeth ar y ffin a'r manteision ehangach i Gymru hefyd, i arwain cysylltiadau gwell o Gymru i weddill y byd, i wella twristiaeth ac i roi mwy o gyfleoedd ar gyfer busnesau yng Nghymru i gyrraedd marchnadoedd allforio newydd.
Mae'r dadansoddiad yn dangos y bydd Heathrow estynedig yn ychwanegu hyd at 8,400 mwy o swyddi, a chynnydd sylweddol mewn twf economaidd i Gymru. Roeddwn i'n falch iawn o fod mewn cyfarfod yn ddiweddar pryd y gwnaethom ni drafod cais Tata Shotton i gael ei enwi fel un o'r pedair canolfan logistaidd terfynol ar gyfer Heathrow. A bydd y canolfannau hyn yn sicrhau bod cymunedau ar draws y DU yn rhannu cyfleoedd yn sgil yr ehangu yn gyffredinol.
Gan gadw hynny i gyd mewn cof, arweinydd y tŷ, hoffwn wybod pe gallem ni gael diweddariad gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau'r buddion hyn y gwyddom y bydd ehangu yn eu sbarduno ledled Cymru, gan gynnwys lleoliad y ganolfan ehangu yn fy etholaeth i.
Mae Jack Sargeant yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn. Mae darn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i hyrwyddo safleoedd o Gymru sydd ar y rhestr fer o safleoedd ar gyfer y ganolfan logisteg Heathrow, a fydd, wrth gwrs, fel y mae ef yn ei amlygu, yn darparu cannoedd o swyddi yng Nghymru a chwistrellu miliynau o bunnoedd i mewn i'n heconomi—sydd yn fawr ei angen yng ngoleuni'r gwahanol benderfyniadau i beidio â buddsoddi yng Nghymru a wnaed gan Lywodraeth bresennol y DU.
Wrth gwrs, mae gennym ni hefyd gynllun hir-ddisgwyliedig i ddarparu mynediad rheilffordd gorllewinol i Faes Awyr Heathrow, sy'n hollbwysig i sicrhau bod Cymru'n cael y budd mwyaf posibl. Ac mae hwn yn fater yr ydym ni hefyd yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU ynglŷn ag ef. Rydym ni'n parhau i bwyso am i'r rhedfa newydd fod â digon o gyfleoedd glanio ar gyfer teithiau hedfan i Gymru ac o Gymru, er mwyn gwella ein cysylltedd, ac mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn am i ni lobïo ar ran safleoedd yng Nghymru ar gyfer y ganolfan logisteg, ac rwyf yn siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed hynny.
Yr wythnos diwethaf, cwrddais i â Docs Not Cops, a gwn eich bod chithau wedi cwrdd â nhw, fel y mae Mike Hedges. Codwyd y mater hwn yn y cyfarfod llawn rai wythnosau yn ôl ynglŷn â gofyn am ddatganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Mewnfudo 2014. Fe wnaethoch chi ymateb, ond fe wnaethoch chi ymateb yng nghyswllt y polisi presennol yn ymwneud â cheiswyr lloches. Felly, rwyf eisiau ceisio deall: bydd unrhyw un o'r tu allan i Ewrop sy'n gwneud cais yn gyfreithlon i weithio neu astudio yma yn cael ei orfodi i dalu'r gordal NHS ychwanegol o hyd at £200 y flwyddyn cyn cael fisa neu bydd rheolau codi tâl a ddefnyddiwyd o'r blaen dim ond ar gyfer gofal eilaidd bellach yn cael eu hymestyn i ofal sylfaenol, meddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys eraill. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi dweud bod cleifion nad ydyn nhw'n preswylio yn y DU fel arfer yn agored o bosibl i dalu. Felly, nid wyf i'n credu bod y mater hwn wedi'i unioni yn gyfan gwbl hyd yn hyn. Gwn mai darn o ddeddfwriaeth y DU yw hwn, ond gallem ni ddewis, yma yng Nghymru, i beidio â gweithredu yr elfennau o'r Ddeddf Mewnfudo a fydd yn cosbi pobl. Bydd yn rhaid i chi ddechrau creu proffiliau hiliol, mae arnaf ofn, os byddan nhw'n mynd at y gwasanaeth iechyd. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi diweddariad i ni gan ddweud wrthym yn union beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud o ran y polisi penodol hwn.
Gallaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod cymhlethdodau difrifol yn bodoli ac mae'n nodi ei barodrwydd i ysgrifennu at Aelodau i fynegi'r hyn yn union yw'r sefyllfa ynglŷn â phwerau i'w gweithredu neu beidio, a pha effaith a gaiff hynny yng Nghymru.FootnoteLink
Diolch i arweinydd y tŷ.