Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 26 Mehefin 2018.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a diolch iddo hefyd am allu rhoi amser iddo y prynhawn yma? Ond mae'n rhaid i mi ddweud, fel cynrychiolydd sy'n byw yn Abertawe, bod hwn wedi bod yn benderfyniad cwbl ddistrywiol. Nid wyf i'n gwybod a allaf i wneud cyfiawnder â'r gwylltineb rhemp yr oedd pobl yn ei gyfathrebu i mi neithiwr am y penderfyniad hwn. Yn y bôn, ni all geiriau gyfleu maint fy siomiant. Mae hwn yn brosiect i'w ryfeddu. Mae potensial aruthrol i ynni llanw ym Mae Abertawe a sianel Bryste—yr ail amrediad llanw mwyaf yn y byd. Mae pobl yn dweud bob amser, 'Nid oes gennych chi unrhyw adnoddau yng Nghymru'. Mae gennym ni, wyddoch chi; ond nid ydym yn manteisio arnyn nhw. Mae ffolineb y penderfyniad hwn yn anhygoel, mae'n rhaid i mi ddweud, yn gwrthod i ni ryddhau potensial aruthrol ynni llanw. Fel yr ydych chi wedi'i ddweud, nid y prosiect braenaru cyntaf hwn—cynllun arbrofol, mae'n amlwg—oedd y mwyaf, ac roedd yn un eithaf bychan, ond byddai pump o rai llawer mwy wedi dilyn, a byddai Cymru wedyn yn y pen draw yn dod yn gwbl hunangynhaliol o ran ynni. Dyna'r dyfodol adnewyddadwy, 'does bosib.
Daw hyn ar yr un diwrnod ag y gwelsom ni ehangu'r drydedd redfa yn Heathrow ac yn amlwg, cyhoeddiad blaenorol am ynni niwclear yn cael mwy o gymhorthdal cyhoeddus. Mewn geiriau eraill, mae'r syniad yno eisoes—cymhorthdal cyhoeddus i brosiectau ynni mawr—ac fel y dywed y cwmnïau morlyn llanw eu hunain, byddai, fe fyddai cynnydd mewn prisiau ynni ar filiau'r defnyddwyr, fel y nododd Lee Waters yn gynharach: 30c y flwyddyn i aelwydydd, o'i gymharu â £15 ychwanegol y flwyddyn ar gyfer ynni niwclear. Dyna'r gymhariaeth. Yn amlwg, y cwmni morlyn llanw—mae llawer ohonom ni wedi bod yn cyfarfod â nhw dros y blynyddoedd. Pasiodd Plaid Cymru'r polisi o gael morlyn llanw ym Mae Abertawe gyntaf yn ein cynhadledd yn Abertawe yn 2006. Mae rhai ohonom ni wedi bod yn gweithio ar hyn gyda'r cwmni ers bron i 15 mlynedd, ac mae'r hyn sy'n digwydd yn hynod siomedig. Nid yw'r cwmni wedi clywed dim gan Lywodraeth San Steffan am ddwy flynedd. Mae'n rhaid i chi ofyn—a byddwn yn gofyn ichi gadarnhau nawr—pa linellau cyfathrebu a fu? Mae'r cwmni yn dweud ei fod wedi clywed y nesaf peth i ddim gan y Llywodraeth am ddwy flynedd:
Mae'r diffyg ymgysylltu â ni yn ystod y broses hon wedi bod yn hynod annymunol.
Cadeirydd Tidal Lagoon Power sy'n dweud hynny. Mae'n rhaid i ni ddeall sut y daethom i'r penderfyniad hwn 18 mis ar ôl i Charles Hendry a'i adroddiad gwych ddweud y byddai hwn yn benderfyniad amlwg na fyddem yn difaru ei wneud. Felly, yn sydyn nawr, 18 mis o aros am benderfyniad ddigon mawr i geisio claddu'r newyddion drwg hyn, ac yna mae'n diferu allan ar ôl llawer o oedi, ac rydym yn hynod o siomedig ei bod yn ymddangos bod technoleg arloesol, sy'n arwain y byd wedi ei gwadu i Gymru. Rwy'n gwybod bod teimlad yn San Steffan weithiau na all Cymru fach arwain y byd mewn dim, ond gallasem fod wedi gwneud hynny yn hyn o beth, a hoffwn gael gwybod gan Ysgrifennydd y Cabinet sut y mae ef yn bwriadu datblygu'r holl agenda hon, gan fod y llanw yn dal yno, yn treio a llenwi wrth inni siarad, ond nid yn cael ei ddefnyddio er budd pobl y wlad hon.
Yr un pris taro sydd yn Hinkley Point—fel y dywedais, ychwanegiad bychan iawn at filiau trydan blynyddol i ddefnyddwyr. Rydym wedi colli trydaneiddio i Abertawe. Er bod trydaneiddio yn broses fyw ar reilffyrdd i'r gogledd o Fanceinion, nid yw'n ymddangos yn gymwys rywsut yn achos Cymru, a dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru ein bod yn well ein byd gyda diesel, ac mae pobl yn dweud bod diesel yn effeithio'n andwyol ar ein hiechyd. Ydy, mae'n effeithio'n andwyol ar ein hiechyd.
Bydd mwy am yr Ysgrifennydd Gwladol yfory yn ddiamau, ond dau gwestiwn i orffen. Roedd cefnogaeth gan yr holl bleidiau yn y fan hon sydd, a bod yn deg, wedi ei adlewyrchu. Mae San Steffan yn anwybyddu hynny er gwaethaf cytundeb yr holl bleidiau yn y fan hon. Mae gwir angen inni gymryd rheolaeth ar ein dyfodol yn gyffredinol, ond yn arbennig nawr o ran ynni. Felly, sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i symud yr agenda hon yn ei blaen? Oherwydd mae gennyf deimlad diysgog, ar ôl y penderfyniad enfawr hwn, gydag unrhyw brosiect ynni'r môr yng Nghymru erbyn hyn—sut y caiff hynny ei weld o'r tu allan? Sut bydd hynny'n cael ei weld? Wedi darfod amdano?
Fy nghwestiwn arall yw: bydd dadl bwysig iawn yfory ar y cynnig o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dyn San Steffan yng Nghymru, yn sicr. Mae'r penderfyniad hwn yn wir wedi ein digalonni. A fyddwch chi'n cefnogi'r bleidlais diffyg hyder honno?