Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 26 Mehefin 2018.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n ymddiheuro am ei fod mor hwyr yn cael y datganiad. Dim ond rai munudau yn ôl y cefais innau'r datganiad hefyd gan iddo gael ei ailddrafftio ar gam diweddar iawn. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi bod yno pan oedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ac mae'r Aelod yn nodi penderfyniad Cylchdaith Cymru fel un enghraifft sylfaenol o sut, yn wyneb pwysau gan y cyhoedd a'r ymgyrchoedd dros roi sêl bendith i brosiect, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn ei asesu ar sail gwerth am arian a manteision ehangach a allai ddod yn sgil prosiect. Ond mae'r prosiect hwn yn wahanol iawn i Gylchdaith Cymru. Byddai Cylchdaith Cymru wedi bod ar y fantolen. Byddai wedi bod angen gohirio £300 miliwn o wariant Llywodraeth Cymru o bosib o ganlyniad i'r dyfarniad hwnnw ei bod yn rhaid iddo fod ar y fantolen. Ni chafodd Cylchdaith Cymru ei gefnogi mewn adolygiad annibynnol gan gyn-Weinidog ynni. A, gadewch i ni ddwyn i gof, prif bwynt y prosiect hwn oedd ei fod yn brosiect braenaru a chan ei fod yn brosiect braenaru, byddech yn disgwyl costau ychwanegol bob amser. Dylai'r prawf gwerth am arian gan brosiect braenaru fod yn wahanol iawn oherwydd y costau cyfle a allai godi wrth beidio â bwrw ymlaen â phrosiect arbennig.
O ran dymuniad yr Aelod y gallai hwn fod wedi bod yn benderfyniad cadarnhaol, rwy'n myfyrio ar yr hyn a fyddai wedi digwydd o bosib pe na byddai David Cameron wedi galw am refferendwm ar ein haelodaeth o'r UE. Mae'n debygol y byddai ef yn dal i fod yno o hyd yn Brif Weinidog, ni fyddem yn wynebu trychineb methiant o ran negodiadau Brexit ac, yn ôl pob tebyg, o ystyried ei gefnogaeth bersonol i'r cynllun hwn a'r ffaith ei fod wedi ei gynnwys ym maniffesto 2015 y Blaid Geidwadol, byddem wedi gweld penderfyniad gwahanol iawn yn cael ei wneud ddoe. Efallai wir y byddem ni wedi gweld penderfyniad gwahanol hefyd o ran trydaneiddio. Ac am y rhesymau hynny, mae'r bai am y penderfyniadau a wnaethpwyd, yn bendant yn fy marn i, yn disgyn ar Theresa May fel Prif Weinidog ac Arweinydd y Blaid Geidwadol sydd yn llywodraethu yn y DU.
Nawr, o ran ymgysylltu, mae datblygwyr yn herio'r ffigurau a gynhyrchwyd. Cefais yr arfarniad manwl heddiw. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gynnal asesiad trylwyr o hwnnw, ond, unwaith eto, fel prosiect braenaru, mae'r costau yn mynd i fod yn uwch bob amser. Os edrychwn ni ar ddatblygu gwynt ar y tir a'r môr, roedd costau yn uwch 10 mlynedd yn ôl nag y maen nhw heddiw, a'r costau cyfle yr ydym yn wynebu ar hyn o bryd wedi eu colli. Gallai'r costau cyfle fod yn sylweddol yn wir os na ddaw Cymru yn arweinydd byd-eang.
Nawr, mae'r Aelod yn nodi yn gywir bod y pwynt a wnaethpwyd yn y Senedd ddoe—y sicrwydd fod Llywodraeth y DU wedi derbyn cynigion gan rai y maen nhw'n ei ddweud sy'n hyrwyddwyr eraill o gynlluniau ynni llanw. Rwy'n credu bod angen i ni wybod pwy, ac ymhle y mae'r cynlluniau hynny yn cael eu hyrwyddo ac ymhle y bydden nhw'n cael eu sefydlu, oherwydd nid ydym yn gwybod, hyd yma, a yw unrhyw un o'r cynlluniau hynny—rwy'n deall efallai fod cynifer â hanner dwsin—yn seiliedig ar Fae Abertawe. Nid ydym yn gwybod pwy yw hyrwyddwyr y cynlluniau hynny. Nid ydym yn gwybod beth fydd y costau o weld y cynlluniau hynny'n cael eu cwblhau. Felly, rydym yn disgwyl am fanylion y cynigion arbennig hynny gyda diddordeb mawr iawn.
Credaf fod angen i ni hefyd wneud yn siŵr bod trafodaethau yn cael eu cynnal â phartneriaid bargen ddinesig. Cyfarfûm ag arweinwyr bargen ddinesig Bae Abertawe ddoe, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n edrych nid yn unig ar ddyfodol ynni morol ym Mae Abertawe, ond ar ddatblygu ac adfywio economaidd y rhanbarth yn ehangach. Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r penderfyniad hwn a'r tro pedol ar drydaneiddio wedi ei gael ar gymunedau Bae Abertawe, ac yn arbennig ar Ddinas Abertawe ei hun. Rwy'n cyfaddef nad ar Lywodraeth y DU mae'r bai am hyn, ond, yn ogystal â hynny, wynebodd Abertawe ddiraddiad eleni o'r uwch gynghrair. Mae'r holl ffactorau hyn yn cyfrannu at effaith negyddol o ran hyder a hunan-gred. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddygn ac yn ddiflino gyda'r awdurdod lleol a phartneriaid ledled dinas ranbarth Bae Abertawe i ddod o hyd i brosiectau buddsoddi a all adfer hyder pobl Abertawe a sicrhau bod gan y diwydiant ynni morol ym Mae Abertawe, a ledled Cymru, ddyfodol cadarnhaol a chryf iawn yn wir.