7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Brexit — Y Risgiau i Ddyfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:35, 26 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y sylwadau. Dydw i ddim yn synnu nad ydych chi wedi newid eich meddwl o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond byddwn wedi meddwl y byddech chi'n realistig, unwaith eto, ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd os ydym ni'n gadael gyda dim bargen neu Brexit caled. Ylwch, o ran y gweithlu ar gyfer y gwasanaeth iechyd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, rydym ni wedi cael trafodaethau hir ac angerddol rhwng swyddogion, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac, yn wir, mae pob sefydliad sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal ar draws y DU wedi galw ar Lywodraeth y DU, am amser hir, i newid y sefyllfa neu i newid y rheolau ynghylch pobl yn cael eu recriwtio i'n gwasanaeth iechyd. Felly, croesawaf y tro pedol a gyhoeddwyd gan Sajid Javid i ddiddymu'r cyfyngiadau haen 2. Roedd hynny yn gam cadarnhaol ymlaen, ac roedd bob amser o fewn haelioni’r Deyrnas Unedig. Roedd a wnelo hyn ag ynfydrwydd y Swyddfa Gartref yn dweud wrth y gwasanaeth iechyd, 'allwch chi ddim cyfyngu ar y staff y mae eu hangen arnoch chi, y gallech chi eu recriwtio i ddiwallu ein hanghenion iechyd a gofal, oherwydd rydym ni wedi rhoi terfyn artiffisial ar y niferoedd sy'n gallu dod i mewn.' Felly, nid oes a wnelo hynny â'r Undeb Ewropeaidd o gwbl.

Ond rwy'n credu, o ran eich awgrym bod a wnelo hyn â'r Undeb Ewropeaidd yn cosbi'r Deyrnas Unedig, yn y bôn mae a wnelo hyn â, os ydych chi'n gadael clwb, a'ch bod yn dweud, 'does arnaf i ddim eisiau chwarae yn ôl y rheolau; rwyf eisiau'r holl fuddion, ond fe wnaf i benderfynu wedyn beth arall rwyf eisiau ei wneud hefyd', yna dyna'r union sefyllfa na allwn ni fod ynddi. Mae'n rhaid inni gael amrywiaeth o fesurau sy'n ymwneud â realiti sefydliadau a rheolau yr Undeb Ewropeaidd gyfan, ac os ydym ni eisiau elwa ar y rhai hynny, yna bydd angen inni weithredu mewn ffordd sy'n gyson, a chael cytundeb ynglŷn â gwneud hynny.

O ran eich sylw ar ddechrau eich araith, pan wnaethoch chi ddweud nad oes neb eisiau unrhyw gyfyngiadau ar feddyginiaethau ac offer—wrth gwrs nad oes arnom ni eisiau cyfyngiadau, ond mae angen inni gael systemau sy'n caniatáu inni wneud hynny. Felly, dyna pam mae trefniadau ynghylch tollau tramor a masnach o bwys: Mae 47 miliwn o gynhyrchion fferyllol bob blwyddyn yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd, a daw tua 39 miliwn yn ôl y ffordd arall. Mae masnach enfawr yn digwydd yma rhyngom ni a gweddill Ewrop, felly mae'r trefniadau tollau a'r trefniadau masnach wirioneddol o bwys yn y maes hwn o weithgarwch hefyd. Maen nhw wedi eu hategu gan systemau ledled yr UE o ran sut mae meddyginiaethau a sut mae offer yn cael eu defnyddio yn Ewrop. Ac mae canolbwynt cyffredin yma: naill ai rydym ni eisiau i hynny barhau, neu rydym ni'n fodlon ysgwyddo cyfyngiadau a fydd yn achosi niwed gwirioneddol i bobl yn ein gwlad. Fy marn i yw na ddylem ni oddef y posibilrwydd hwnnw. Ddylem ni ddim fod eisiau dweud ei bod hi'n dderbyniol i orfod disgwyl chwe mis ar gyfartaledd nes fo meddyginiaethau newydd ar gael, fel yw'r achos bellach yn y Swistir. Nid wyf yn credu y byddai hynny'n dderbyniol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn credu y byddai hynny'n dderbyniol chwaith.