Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 26 Mehefin 2018.
Er bod y gronfa eisoes yn dechrau cefnogi atebion a arweinir gan lety i ofal cymdeithasol, ochr yn ochr â rhaglenni cyfalaf tai ac iechyd, rwyf eisiau symud tuag at ddatblygu rhaglen fwy ymestynnol, strategol o fuddsoddi cyfalaf, sydd â thai wrth ei chraidd. Rwyf am inni wella ein perfformiad gyda'r gronfa hon a symud oddi wrth gyflawni dim ond prosiectau llai—ond pwysig—lleol i ddull llawer mwy arloesol a gwirioneddol integredig, blaenoriaethu atebion a arweinir gan lety sydd wedi'u cynllunio'n benodol i leihau'r galw ar gyllidebau gofal cymdeithasol. Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol er mwyn cyfochri'n well yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ym maes tai a gofal cymdeithasol. Aeth y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol a minnau ar ymweliad â chynllun tai â gofal ychwanegol a gofal sy'n cael ei adeiladu ym Maesteg ddoe, sydd â gofal a chymorth wrth ei wraidd. Mae ei ddatblygiad yn seiliedig ar asesiad o anghenion y boblogaeth leol ac angen lleol am dai a dyma'r math o brosiect yr ydym ni eisiau gweld mwy ohonynt.
Rwy'n falch, felly, i gyhoeddi rhaglen gyfalaf tair blynedd newydd o £105 miliwn i gefnogi symudiad tuag at ymagwedd fwy strategol ac ymestynnol o atebion a arweinir gan lety i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf eisiau gweld y dull hwn a arweinir gan lety yn cael ei ymwreiddio yn y modelau gofal yr ydym ni'n eu datblygu ar gyfer pobl hŷn a grwpiau eraill sy'n agored i niwed. Gwyddom am swyddogaeth tai yn iechyd a lles pobl. Tai yw'r llwyfan i atal ac ymyrraeth gynnar ar gyfer gofal cymdeithasol, ac maent hefyd yn allweddol i helpu i wneud gwasanaethau yn fwy cynaliadwy. Nod y rhaglen gyfalaf gronfa gofal integredig newydd o £105 miliwn yw manteisio i'r eithaf ar y cyfraniad y gall ymyriadau tai ei wneud i wella darpariaeth gwasanaethau, gan hefyd ysgafnhau'r pwysau ar y GIG a darpariaeth gofal cymdeithasol.
Yn ogystal â hyn, mae'r rhaglen hon yn ymateb i nifer o argymhellion yn yr adroddiad, 'Tai i’r dyfodol: diwallu dyheadau pobl hŷn Cymru', a oedd yn nodi rhaglen eang o newid pan gafodd ei gyhoeddi y llynedd. Tynnodd sylw at yr angen am weithredu cydlynol ar amrywiaeth o lefelau. Roedd yr adroddiad yn alwad i weithredu, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Cydnabu'r grŵp arbenigol a luniodd yr adroddiad bwysigrwydd gweithredu ar amrywiaeth o lefelau i sicrhau newid trawsffurfiol. Bydd yr adroddiad yn parhau i ddarparu llwybr ar gyfer y newidiadau pellach sy'n dal i fod yn ofynnol os ydym ni i ymateb yn ddigonol i'r heriau tai, iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ein hwynebu yng Nghymru.
Rydym yn ysgogi'r agenda integreiddio drwy gefnogi'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thai i gydweithio llawer mwy drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Darperir ar gyfer y byrddau gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac maen nhw'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau buddsoddi strategol ar gyfer y gronfa gofal integredig. Maen nhw'n tynnu ynghyd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector, dinasyddion, a phartneriaid eraill. Mae integreiddio yn gwbl allweddol iddynt. Rwy'n benderfynol o weld llais tai yn dod i'r amlwg hyd yn oed yn fwy yng ngwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Ni all cyfraniad tai i ofal a chymorth mwy effeithiol fod yn elfen ychwanegol ddewisol yn unig; mae angen iddo fod wrth wraidd ein hymdrechion i integreiddio gwasanaethau er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf. Felly, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelodau y byddwn ni'n gwneud tai yn aelod statudol o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, ac mae swyddogion yn ystyried sut y gellir gweithredu hyn yn y modd mwyaf effeithiol.
Wrth gwrs, ni ddylid ystyried mai darparu llety newydd yw'r unig ateb. Mae'n hanfodol inni gefnogi pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain wrth i'w hanghenion newid. Rydym ni'n gwybod bod cymhorthion ac addasiadau yn aml yn achubiaeth i bobl sy'n cael profiad o amgylchedd sy'n anablu. Gall cartref addas, sydd wedi'i addasu'n dda, wneud y gwahaniaeth i allu rhywun i fyw'n annibynnol ac i gael gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn agos i gartref, osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty, neu orfod symud i ofal preswyl hirdymor. Rydym eisoes wedi cyflwyno gwelliannau pwysig i'r system o ddarparu addasiadau a chymhorthion ar raddfa fach i helpu pobl i wneud hyn. Mae'r ymagwedd newydd, o'r enw Hwyluso, yn canolbwyntio ar fwy o effeithlonrwydd drwy symleiddio a chyflymu'r broses o gael addasiad. Mae'n gwneud hyn drwy benderfynu ar y ffordd fwyaf effeithlon o ddarparu cymorth neu addasiadau i ddiwallu angen rhywun, gan fod nifer o ffynonellau ariannu ar gael yn dibynnu ar amgylchiadau a deiliadaeth person. Mae'r system newydd yn casglu data hefyd i'n helpu ni i ddeall sut y gallwn ni wella'r broses hon ymhellach. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall ein system bresennol sydd wedi'i gwella fod yn gymhleth o hyd ac mae angen ei symleiddio, ac mae adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ategu'r farn honno. Felly, rwyf wedi cyhoeddi y byddwn ni'n cyflwyno rhaglen newid arall yn y maes hwn a byddwn ni'n ymgynghori ar y newidiadau hyn maes o law. Mae'n rhaid inni symleiddio'r broses o ariannu a darparu gwasanaethau er mwyn canolbwyntio mwy ar y dinesydd, a bod yn dryloyw a chyson wrth ei chyflwyno.
Nod yr holl feysydd pwysig hyn o waith, ochr yn ochr â'r rhaglen newydd o fuddsoddiad cyfalaf, yw helpu pobl sydd angen cymorth i gael y cymorth iawn, p'un a ydyn nhw'n bobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, pobl ag anableddau dysgu, plant ag anghenion iechyd cymhleth, neu ofalwyr. Mae ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod y rhan sylweddol y gall tai priodol ei chwarae wrth symud iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn agosach at gymunedau, a hynny mewn blwyddyn pan rydym ni'n dathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70, gwasanaeth a anwyd yma yng Nghymru, wrth gwrs. Yr hyn na werthfawrogir bob amser yw bod Nye Bevan yn Weinidog iechyd a thai, ac roedd ei gyfraniad ef at wella ansawdd a nifer y tai sydd ar gael yn sylweddol. Roedd e'n deall bod angen tai addas ar bobl er mwyn byw bywydau hir ac iach, ac yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n gwneud y datganiad hwn heddiw.