9. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Integreiddio Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:02 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 7:02, 26 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Rwy'n falch eich bod wedi dechrau trwy gydnabod ei bod yn bwysig nad ydym yn gweithio mewn seilos yn hyn o beth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad o ran gallu gweithio ar draws ffiniau traddodiadol, yn enwedig pan fyddwn yn gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd i wneud pethau anodd, gan gynnwys cyfuno cyllidebau trwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a dyna un o swyddogaethau allweddol y byrddau partneriaeth rhanbarthol, oherwydd bod defnyddio adnoddau yn effeithiol yn flaenoriaeth allweddol i'r byrddau hynny. Bydd y cronfeydd cyfunol hynny a gwell comisiynu integredig yn arwain at fwy o gadernid yn y gwasanaethau a ddarperir, â phwyslais ar wella ansawdd ac nid yn unig ar wella gwerth am arian.

Rydym ni wedi cael sicrwydd bod yr holl fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn darparu rhyw fath o gronfa gyfunol o ran cartrefi gofal i bobl hŷn. Rydym yn awyddus i sicrhau bod cronfeydd cyfunol cyflawn ar waith, sy'n darparu prosesau comisiynu effeithiol ar y cyd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ac mae'r Gweinidog wedi'i gwneud yn glir y byddwn yn ystyried ymyrryd yn uniongyrchol os nad yw hynny'n wir. Felly, ydy, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn dangos arweinyddiaeth ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud hynny trwy 'Ffyniant i bawb', sy'n cydnabod bod tai a gofal cymdeithasol yn ddwy o'n pum blaenoriaeth draws-Lywodraeth, ac rydym yn cydnabod bod cyfrifoldeb arnom ni i gyd ar draws y Llywodraeth i weithio gyda'n gilydd ar agendâu hyn; yn sicr nid cyfrifoldeb un person i'w gyflawni yw hyn.

A ydym ni'n adeiladu digon o fyngalos? Nac ydym, yn bendant dydym ni ddim. Roeddwn i'n falch iawn ddoe yn ymweld â datblygiad newydd ym Maesteg gyda fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies. Maen nhw'n adeiladu byngalos newydd yno, ac mae hynny'n hynod o gyffrous, oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes digon o fyngalos yn cael eu hadeiladu. Roeddwn i'n siarad â datblygwyr ynghylch pam, a'u bod yn cael eu hystyried yn aml yn eithaf aneffeithlon o ran eu hadeiladu, oherwydd eu bod, fesul metr sgwâr, yn ddrytach i'w hadeiladu na thai eraill. Ond, yn yr un modd, mae byngalos mewn gwirionedd yn diwallu anghenion pobl hŷn sydd angen bod yn byw ar un llawr, er enghraifft, ac sydd angen eiddo eithaf bach i ofalu amdano. Felly, hoffwn i, yn sicr, weld mwy o fyngalos yn cael eu hadeiladu, ac roedd y rhai a oedd yn cael eu hadeiladu ddoe yn cael eu hadeiladu trwy gymdeithas dai, â'r nod penodol o gefnogi pobl i fyw yn y llety hynny, yn rhan o'u cynnig tai cymdeithasol yn yr ardal leol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ystyried hynny, er enghraifft, wrth iddyn nhw ystyried eu blaenraglen waith, a hefyd gan awdurdodau lleol wrth iddyn nhw ystyried eu dadansoddiad o anghenion tai lleol, er enghraifft.

O ran blaenoriaethau a sut y bydd byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gwybod beth i ganolbwyntio eu hymdrechion arno, ynghyd â llythyr i fyrddau partneriaeth rhanbarthol heddiw o ganlyniad i'r datganiad hwn, rydym ni hefyd yn cyhoeddi canllawiau ar y rhaglen ar gyfer y gronfa hon. Felly, ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ym meddyliau byrddau partneriaeth rhanbarthol ynghylch ble yr hoffem ni i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio.

Cytunaf yn llwyr fod y defnydd o dechnolegau newydd yn rhoi cyfleoedd gwirioneddol i gefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi yn hirach, ac i fonitro anghenion gofal pobl, a monitro iechyd pobl, ac ati. Adlewyrchwyd hynny mewn rhywfaint o'r ateb a roddais i Dai Lloyd.

Unwaith eto, rwy'n credu bod adeiladu'r cartrefi iawn hefyd yn ymwneud ag adeiladu cymunedau, ac mae hynny'n ymwneud yn fawr iawn â'r pwynt y gwnaethoch chi am fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, a gwyddom fod hyn yn dod yn destun pryder cynyddol i lawer o bobl hŷn, ond nid pobl hŷn yn unig, ledled Cymru. Felly, mae adeiladu cartrefi sydd hefyd yn gymunedau, fel yr un y gwelais i ddoe, yn ffordd wych yn fy marn i o allu mynd i'r afael â hynny hefyd.

O ran y grwpiau y mae'r cyllid hwn yn bwriadu eu cefnogi, nodir y grwpiau hynny trwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, sef: pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia; pobl ag anableddau dysgu; plant ag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch; a gofalwyr a gofalwyr ifanc. Felly, mae'r grwpiau hynny wedi'u nodi'n benodol trwy ddeddfwriaeth.

Mae gennym ni gysylltiad cryf iawn rhwng y cynllun gweithredu ar ddementia a gwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar beth y mae defnyddwyr gwasanaeth â dementia ac aelodau o'u teulu wedi'i ddweud wrthym ni sy'n arbennig o bwysig iddyn nhw, er enghraifft, diagnosis amserol, ac wedyn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn dilyn y diagnosis hwnnw. Cefnogir gweithrediad y cynllun hwnnw gan £10 miliwn o fuddsoddiad y Llywodraeth, ac mae £9 miliwn o hwn wedi'i ddyrannu i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol trwy'r gronfa gofal integredig, felly'r nod yw dwyn ymlaen a galluogi gwaith integredig rhwng gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, tai, y trydydd sector a'r sectorau annibynnol i gefnogi pobl â dementia a'u gofalwyr. I gefnogi hyn, rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau ar y gronfa gofal integredig atodiad a luniwyd yn benodol â golwg ar y cynllun gweithredu ar ddementia.