Lefelau Cyrhaeddiad Disgyblion Difreintiedig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:59, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, yng Nghastell-nedd Port Talbot y llynedd, disgynnodd canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sy'n cyrraedd lefel 2 neu uwch yn eithaf sylweddol. Mae'r nifer ar ei isaf ers 2011. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried hyn, ac o gofio sylwadau diweddar ynghylch effeithiolrwydd y grant amddifadedd disgyblion, a ydych o'r farn fod eich polisïau'n gweithio ar gyfer disgyblion yn fy rhanbarth i?