Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 27 Mehefin 2018.
Wel, yn gyntaf, a gaf fi gywiro'r Aelod? Nid y grant amddifadedd disgyblion yw ei enw mwyach, fe'i gelwir bellach yn grant datblygu disgyblion. Mae'r Aelod yn gywir i ddweud, ar ôl nifer o flynyddoedd pan gafwyd cynnydd o ran cyrhaeddiad lefel 2 ac uwch ar lefel TGAU mewn perthynas â'n plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a'n plant sy'n derbyn gofal, na lwyddodd y garfan honno o blant, yn anffodus, i ymdopi cystal yr haf diwethaf wrth i'r manylebau TGAU newydd gael eu cyflwyno. Rydym wedi cyflawni gwaith yn fewnol er mwyn deall yn well pam roedd y garfan honno o blant yn llai gwydn, yn enwedig wrth inni weld rhagor o fanylebau TGAU newydd yn cael eu cyflwyno eleni yng Nghymru, er enghraifft mewn gwyddoniaeth.
Rwy'n gwbl ymrwymedig, hyd ddiwedd cyfnod y Llywodraeth hon, i barhau i ariannu'r grant datblygu disgyblion. Yn y gwerthusiad annibynnol a gynhaliwyd o'r grant hwnnw, nododd ysgolion ei fod yn hynod o werthfawr, a fy ngwaith i yw sicrhau nid yn unig fod yr adnoddau hynny ar gael i ysgolion, ond bod ysgolion unigol sy'n derbyn yr adnodd yn ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol ar ymyriadau y gwyddom eu bod yn gweithio.