Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 27 Mehefin 2018.
Wel, Bethan, i mi, mae hwn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Ni ddylai canlyniadau addysgol unrhyw blentyn gael eu pennu yn sgil amgylchiadau eu geni neu allu eu teulu i gefnogi eu haddysg. Dyna pam nad wyf yn ymddiheuro, fel y dywedais, am wario dros £90 miliwn eleni ar addysg y dysgwyr hynny.
Nawr, yr hyn a wyddom yw bod ysgolion o'r farn fod yr adnodd hwn yn hynod o werthfawr, fod dwy ran o dair o ysgolion yn defnyddio'r adnodd yn effeithiol i wneud gwahaniaeth i'r dysgwyr mwyaf agored i niwed, ond rwyf am i'r holl ysgolion wneud defnydd effeithiol o'r adnodd hwn, a dyna pam ein bod, drwy ein consortia rhanbarthol, newydd gyflogi cynghorwyr penodol i weithio gydag ysgolion er mwyn sicrhau bod yr arian hwn a ddarperir i ysgolion unigol yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau. Yr hyn a wyddom hefyd yw bod angen inni ymyrryd cyn gynted â phosibl yn addysg plentyn, a dyna pam rydym wedi dyblu faint o'r grant datblygu disgyblion sy'n mynd i gefnogi addysg ein disgyblion ifancaf, oherwydd os gallwn sicrhau nad oes bwlch cyrhaeddiad rhwng plant 11 oed, mae hynny'n rhoi cyfle gwell inni sicrhau bod plant yn mynd yn eu blaenau i gael canlyniadau TGAU da iawn. Ond rwyf bob amser yn awyddus i ystyried sut y gallwn ddatblygu a lledaenu arferion gorau, ac mae hynny'n cynnwys ystyried pecyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton penodol ar gyfer Cymru. Ar hyn o bryd, dyna'r safon aur y gofynnir i ysgolion farnu penderfyniadau a wnânt ynghylch gwariant yn ei herbyn. Credaf ei bod bellach yn bryd ystyried datblygu pecyn cymorth penodol ar gyfer Cymru sy'n cydnabod amgylchiadau diwylliannol penodol y system addysg yng Nghymru.