Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 27 Mehefin 2018.
Bûm yn gwneud peth ymchwil, cyn y cwestiwn heddiw, a chyflawnwyd adroddiad gan Ipsos MORI a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru ar y grant datblygu disgyblion, ac yn ôl yr adroddiad hwnnw, er bod y grant datblygu disgyblion wedi cyflawni llawer o bethau cadarnhaol, roedd hi'n anodd gweld a wnaed cynnydd o ganlyniad i'r grant datblygu disgyblion ynddo'i hun, a bod rhai o'r newidiadau wedi dod cyn rhoi'r grant datblygu disgyblion ar waith. Nawr, gwn mai hon yw'r ffactor allweddol wrth geisio newid rhagolygon pobl o gefndiroedd difreintiedig, felly a allwch ddweud wrthym pa ddadansoddiad pellach a wnaed gennych ers yr adroddiad penodol hwnnw yn 2017 i sicrhau eich bod yn gwybod yn iawn mai'r grant datblygu disgyblion a'r cyllid sydd ynghlwm wrtho sy'n cyflawni'r lefelau cyrhaeddiad hynny, yn hytrach na rhywbeth arall a allai fod yn dod o le arall o ran themâu yn ngwaith cynllunio'r gweithlu addysg?