Addysg ym Mhowys

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:06, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau wedi condemnio'r bwlch cyllido disgyblion, sydd bellach bron yn £700 y disgybl o gymharu ag ysgolion a gynhelir yn Lloegr. A gaf fi ofyn beth rydych yn ei wneud i fynd i'r afael â'r bwlch cyllido, sydd, yn ôl yr Undeb, a dyfynnaf, yn culhau'r cwricwlwm mewn rhai ysgolion ac yn arwain at ddiswyddo athrawon a staff cymorth talentog?