Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 27 Mehefin 2018.
Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn buddsoddi £100 miliwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn i godi safonau ysgolion. Rydym yn buddsoddi dros £2 biliwn mewn adeiladau ysgolion, yn ogystal â nifer fawr o fentrau gyda'r nod o fynd i'r afael ag anghenion penodol o fewn y cwricwlwm. Ond mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, fod aelodau Ceidwadol Cyngor Sir Powys wedi pleidleisio ychydig wythnosau yn ôl yn erbyn opsiwn a allai fod wedi sicrhau adnoddau ychwanegol i ysgolion Powys. Efallai y dylai gael gair â'i gymheiriaid ar y cyngor.