1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2018.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi addysg ym Mhowys? OAQ52399
Mae Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol ar y cyd yn cynorthwyo ysgolion ym Mhowys i wella safonau addysgol, yn unol â'n blaenoriaethau a nodir yn 'Cenhadaeth ein Cenedl'.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau wedi condemnio'r bwlch cyllido disgyblion, sydd bellach bron yn £700 y disgybl o gymharu ag ysgolion a gynhelir yn Lloegr. A gaf fi ofyn beth rydych yn ei wneud i fynd i'r afael â'r bwlch cyllido, sydd, yn ôl yr Undeb, a dyfynnaf, yn culhau'r cwricwlwm mewn rhai ysgolion ac yn arwain at ddiswyddo athrawon a staff cymorth talentog?
Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn buddsoddi £100 miliwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn i godi safonau ysgolion. Rydym yn buddsoddi dros £2 biliwn mewn adeiladau ysgolion, yn ogystal â nifer fawr o fentrau gyda'r nod o fynd i'r afael ag anghenion penodol o fewn y cwricwlwm. Ond mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, fod aelodau Ceidwadol Cyngor Sir Powys wedi pleidleisio ychydig wythnosau yn ôl yn erbyn opsiwn a allai fod wedi sicrhau adnoddau ychwanegol i ysgolion Powys. Efallai y dylai gael gair â'i gymheiriaid ar y cyngor.
Nid yw Jenny Rathbone yma i holi cwestiwn 7 [OAQ52412]. Tynnwyd cwestiwn 8 [OAQ52425] yn ôl. Felly, cwestiwn 9, Paul Davies.