Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 27 Mehefin 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwyr sy'n pryderu bod dysgwyr ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig o dan anfantais wrth sefyll yr arholiad TGAU Saesneg oherwydd eu hanawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol a rhyngweithio cymdeithasol, sydd, wrth gwrs, yn golygu sefyll yr un prawf â'u cyfoedion niwronodweddiadol, ac mae hynny'n gwneud pethau'n anos o lawer iddynt. Yng ngoleuni'r annhegwch hwn, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gafwyd gyda darparwyr arholiadau ynglŷn â'r arholiad TGAU Saesneg, ac a yw'n bosibl i ddysgwyr ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig sefyll math gwahanol o arholiad ar gyfer y pwnc hwn, fel nad yw'r dysgwyr hyn o dan anfantais yn y dyfodol?