Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 27 Mehefin 2018.
Paul, mae'n flin gennyf glywed bod rhai o'ch etholwyr yn teimlo nad oedd y papur TGAU Saesneg iaith a osodwyd eleni yn addas ar gyfer anghenion eu plant. Rwy'n ymwybodol fod nifer o'r cwestiynau ar y papur hwnnw, er enghraifft, yn cyfeirio at esbonio beth oedd 'hun-lun', esbonio beth oedd 'mynd yn feiral', a holl fater cyfryngau cymdeithasol. Wrth gwrs, efallai fod rhai plant yn fwy cyfarwydd a brwdfrydig ynglŷn â'r gweithgareddau hynny na phlant eraill.
Mae disgwyl i'n byrddau arholi sicrhau bod ein harholiadau yn deg i bob dysgwr. Rhoddaf ymrwymiad i chi y byddaf yn codi'r achos penodol hwn ynghylch y papur TGAU Saesneg gyda Cymwysterau Cymru, oherwydd, wrth gwrs, caiff cymwysterau eu pennu'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ond yn amlwg, rydym am sicrhau chwarae teg i bob plentyn sy'n cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau.