1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2018.
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig? OAQ52390
Gwnaf yn wir, Paul. Rwy'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i ddiwallu anghenion ein holl ddysgwyr, gan gynnwys y rheini ag awtistiaeth. Bydd ein diwygiadau uchelgeisiol i anghenion dysgu ychwanegol yn ailwampio'r system bresennol ar gyfer cefnogi dysgwyr yn gyfan gwbl, gan sefydlu proses integredig a chydweithredol ar gyfer asesu, cynllunio a monitro'r cymorth a ddarperir.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwyr sy'n pryderu bod dysgwyr ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig o dan anfantais wrth sefyll yr arholiad TGAU Saesneg oherwydd eu hanawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol a rhyngweithio cymdeithasol, sydd, wrth gwrs, yn golygu sefyll yr un prawf â'u cyfoedion niwronodweddiadol, ac mae hynny'n gwneud pethau'n anos o lawer iddynt. Yng ngoleuni'r annhegwch hwn, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gafwyd gyda darparwyr arholiadau ynglŷn â'r arholiad TGAU Saesneg, ac a yw'n bosibl i ddysgwyr ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig sefyll math gwahanol o arholiad ar gyfer y pwnc hwn, fel nad yw'r dysgwyr hyn o dan anfantais yn y dyfodol?
Paul, mae'n flin gennyf glywed bod rhai o'ch etholwyr yn teimlo nad oedd y papur TGAU Saesneg iaith a osodwyd eleni yn addas ar gyfer anghenion eu plant. Rwy'n ymwybodol fod nifer o'r cwestiynau ar y papur hwnnw, er enghraifft, yn cyfeirio at esbonio beth oedd 'hun-lun', esbonio beth oedd 'mynd yn feiral', a holl fater cyfryngau cymdeithasol. Wrth gwrs, efallai fod rhai plant yn fwy cyfarwydd a brwdfrydig ynglŷn â'r gweithgareddau hynny na phlant eraill.
Mae disgwyl i'n byrddau arholi sicrhau bod ein harholiadau yn deg i bob dysgwr. Rhoddaf ymrwymiad i chi y byddaf yn codi'r achos penodol hwn ynghylch y papur TGAU Saesneg gyda Cymwysterau Cymru, oherwydd, wrth gwrs, caiff cymwysterau eu pennu'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ond yn amlwg, rydym am sicrhau chwarae teg i bob plentyn sy'n cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau.