Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n falch o gael agor y ddadl yma heddiw am ehangu y brechlyn feirws papiloma dynol, sef y brechlyn cyntaf un i gael ei ddatblygu yn erbyn canser. Mae hynny, yn llyfrau unrhyw un, yn ddatblygiad mawr. I ryw raddau, wrth gwrs, mae yna fantais yn cael ei gymryd o'r datblygiad mawr yna drwy fod y brechlyn yn cael ei gynnig i ferched yn eu llencyndod, ac i ddynion sy'n cael rhyw efo dynion. Ond nid ydym ni, eto, yn cynnig y brechlyn yma i fechgyn ifanc, er gwaethaf y dystiolaeth glir iawn o effeithlonrwydd y brechlyn yn atal canser difrifol, gan gynnwys canserau'r pen a'r gwddf. Byddai defnyddio'r brechlyn yn ehangach hefyd yn ehangu'r amddiffyniad i ferched yn erbyn canser gwddf y groth.
Gwnaf i droi yn syth at welliant y Llywodraeth, sydd fwy neu lai yn dweud eu bod nhw am anwybyddu argymhellion Cancer Research UK a phob oncolegydd yn y wlad, cyn belled ag y gwelaf i, a disgwyl am argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn lle hynny. Nid oes gen i amheuaeth mewn difrif beth fydd yr argymhelliad yna, sydd yn gofyn y cwestiwn: pam aros? Ond rydw i yn meddwl ei bod hi nid yn unig yn deg ond yn bwysig i ailedrych ar argymhelliad cynharach y JCVI i beidio ag ehangu’r brechlyn, a pham y gwnaethon nhw’r argymhelliad yna, achos mae o’n codi materion go sylfaenol, rydw i'n meddwl. A ydyw’r dulliau presennol sydd gennym ni o ddadansoddi effeithiolrwydd cost—nid oes yna neb yn amau'r effeithiolrwydd clinigol—a ydyw’r dulliau yna wir yn addas ar gyfer yr oes yma?
Rhesymau blaenorol y JCVI am beidio ehangu’r rhaglen oedd am eu bod nhw’n teimlo y byddai lles brechu yn cael ei ehangu i fechgyn beth bynnag, gan y byddai brechu lot o ferched yn darparu amddiffyniad heidiol sylweddol i fechgyn. Ond rydym ni’n credu bod y casgliad yma yn ddiffygiol am sawl rheswm. Mi af i drwyddyn nhw. Mae e wedi’i seilio ar y rhagdybiaeth y byddai yna lefel uchel iawn o ferched yn derbyn y brechlyn—rhywbeth sydd ddim yn wir, yn anffodus, oherwydd yr amrywiad anferth yna sydd yna rhwng gwahanol grwpiau, ac yn rhywbeth sy’n gallu cael ei roi mewn peryg gan un stori ddychryn am frechlyn, fel yr ydym ni yn gweld yn ymddangos yn y wasg o bryd i’w gilydd. Mae o’n cymryd yn ganiataol y dylai’r cyfrifoldeb am ddarparu amddiffyniad heidiol ac atal heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol gael ei roi ar ferched. Pam ddim dadlau, er enghraifft, fod rhaglen frechu bechgyn yn unig yn ddigonol i ddarparu imiwnedd heidiol i ferched? Yn drydydd, mae yna'n dal nifer sylweddol o ferched, fel roeddwn i’n ei ddweud, sydd ddim wedi cael eu brechu ac felly a allai drosglwyddo'r feirws i ddynion a fyddai, fel arall, wedi cael eu hamddiffyn petasent wedi eu brechu eu hunain. Pedwar: mi oedd yn farn gan y JCVI a oedd yn seiliedig, mae’n ymddangos, ar ragdybiaethau heteronormadol, sef bod pob dyn yn heterorywiol. Mae hyn, rydw i'n meddwl, yn cael ei gydnabod yn rhannol gan y penderfyniad a ddaeth maes o law i ymestyn brechu MSM, a hynny’n benderfyniad a gafodd ei wneud ar wahân. Mae hi'n bryderus ac mi allai fod yn beryglus hefyd i ddim ond rhoi brechlyn i ddynion sy'n fodlon datgelu eu rhywioldeb, a drwy dybio nad yw hyn yn broblem mae'r JCVI, rydw i'n meddwl, yn dangos yr angen am hyfforddiant cydraddoldeb ehangach yn y sector iechyd.
Mi fyddai brechu bechgyn, fel rydw i'n dweud, yn darparu lefelau uwch o imiwnedd heidiol ymysg merched, sy'n golygu y dylem ni ystyried y budd ychwanegol i ferched yn benodol o frechu bechgyn. Mae'r dystiolaeth wedyn o effeithlonrwydd mewn atal canserau eraill wedi cryfhau ers y dadansoddiad gwreiddiol. Mae hynny'n bwysig i'w nodi, ac mae yn debygol hefyd o fod yn gryfach byth dros amser. Os nad oedd y brechlyn eisoes yn cael ei ddefnyddio, rydw i'n meddwl y byddai casgliadau'r JCVI am gyflwyno rhaglen gyffredinol ar draws y boblogaeth ferched a bechgyn siŵr o fod yn wahanol. Hynny ydy, petasai'r brechlyn yn cael ei gyflwyno o'r newydd rŵan, rydw i'n siŵr mae rhaglen gyffredinol fyddai gennym ni.
Yn olaf, wrth ystyried canlyniad y dadansoddiad effeithlonrwydd cost, rydw i'n meddwl bod yna danamcangyfrif difrifol o'r gost effeithlonrwydd cyflwyno brechlyn ar gyfer bechgyn. Y rheswm, rydw i'n meddwl, ydy oherwydd nad yw’r budd yn dod tan ymhell iawn i lawr y trac. Rŵan mae'r gost yn cael ei thalu o roi'r brechlyn, pan o bosibl na fydd y canser yn cael ei atal am 50 mlynedd. Rŵan, rydw i'n ofni bod y prosesau o fesur cost effeithlonrwydd yn methu â delio efo'r math yna o oedi. Rydw i'n meddwl bod y JCVI ei hunan yn nodi'r problemau hyn, a'r ffaith bod eu dwylo nhw, mewn ffordd, wedi'u clymu, oherwydd yn eu dadansoddiad interim maen nhw'n dweud hyn: