Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 27 Mehefin 2018.
Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y dadleuon a wnaed gan randdeiliaid ar fater mynediad cyfartal a bod manteision clinigol ychwanegol y gellid eu cyflawni mewn dynion gyda rhaglen niwtral o ran rhyw. Dymuna'r Pwyllgor gyfeirio mater mynediad cyfartal felly at yr Adran Iechyd i'w ystyried.
Mewn geiriau eraill, Ysgrifennydd y Cabinet, maent am i chi wneud y penderfyniad. Credaf nad yw'r syniad y gallai hyn fod yn rhy ddrud yn dal dŵr. Mae'r amcangyfrif o'r gost o ymestyn y rhaglen i gynnwys bechgyn oddeutu £0.5 miliwn y flwyddyn. Ni fyddai ond angen inni atal saith neu wyth o achosion o ganser bob blwyddyn, a byddai cyflwyno'r brechlyn hwn yn sicr o wneud hynny, i adennill y gost hon. Yn wir, mae'r unig reswm y defnyddiwyd y ddadl ynghylch costeffeithiolrwydd yn seiliedig ar y syniad y gallwn gael y manteision o'r brechlyn yn rhad drwy ragdybio imiwnedd poblogaeth ar sail rhaglen i ferched yn unig. Fel y gobeithiaf fy mod wedi amlinellu, mae hyn yn ddiffygiol, a chredaf y dylai'r Llywodraeth newid ei meddwl yn awr.