Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 27 Mehefin 2018.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl. Ynghylch imiwneiddio yn y lle cyntaf, brechu, ceir stori lwyddiant rhyfeddol yma ynglŷn ag ymchwil feddygol, oherwydd ers degawdau bellach rydym wedi meddwl nad yw imiwneiddio ond o werth ar gyfer atal heintiau. Nawr, yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi canfod brechiad sy'n atal canser. Mae'n newid rhyfeddol, a phan glywais y newyddion hwnnw gyntaf tua 15 mlynedd yn ôl neu fwy—mae'n cael effaith wirioneddol aruthrol ar sut yr edrychwch ar y byd fel meddyg. Meddyliwn am imiwneiddio fel rhywbeth sy'n atal haint; rydych yn atal lladdfa flynyddol o ganlyniad i ddifftheria, tetanws a'r stwff a lenwai ein hen fynwentydd a'n hen gapeli yng Nghymru, ac yn awr, yn sydyn, rydych yn imiwneiddio a gallwch atal canser. Mae'n anghredadwy. Mae'n newid sylweddol, ac rydym yn anghofio weithiau y dylem ryfeddu at rai o'r pethau rydym wedi'u darganfod.
Yn amlwg, y feirws papiloma dynol sydd dan sylw yma. Caiff ei drosglwyddo'n rhywiol ac yn amlwg, mae'r brechlyn hwn yn atal yr haint, ond mae'n atal y canserau rhag datblygu. Mae'n wirioneddol anhygoel, yn enwedig o ran y dadansoddiad o gost a budd, ac mewn bechgyn, mewn dynion, mae'n ymwneud ag atal canserau'r pen a'r gwddf. Mae'r rhain yn ganserau sylweddol sydd â goblygiadau cost enfawr o ran llawdriniaethau eithaf erchyll, sy'n anffurfio, oherwydd fel arfer daw'n amlwg yn hwyr yn y dydd: mae gennych lwmp ar ochr eich gwddf, tu ôl i'ch tafod, mewn pob math o gilfach na allwn eu gweld tan yn hwyr yn y dydd. Mae yna gost erchyll, enfawr i bob achos unigol o ganser y pen a'r gwddf sy'n rhaid ei gynnwys yn y fformiwla hon o sut rydym yn barnu a yw rhywbeth yn gosteffeithiol ai peidio: os ydynt wedi cael eu brechlyn HPV, ni fyddant yn datblygu'r canser pen a gwddf hwnnw. Oherwydd y cynnydd enfawr mewn—. Mae'r ffigurau gennyf yma, bu cynnydd o 63 y cant yn ystod y degawd diwethaf mewn achosion o ganserau'r geg a'r oroffaryncs mewn dynion yng Nghymru. Dyna'r ffigurau, ac mae'r cynnydd hwnnw'n gysylltiedig â'r cynnydd mewn heintiau HPV. Felly, gallwn wneud rhywbeth ynglŷn â hynny drwy frechu'r bechgyn yfory.
Dyma'r agenda atal ar ei gorau, fel y nododd Angela Burns. Eisoes, mae'r merched yn cael eu brechu. Gellid brechu'r bechgyn yn ogystal. Rydym ar y ffordd i ddileu canser ceg y groth. Mae'n anhygoel, onid yw? Rydych yn sôn am ganser ceg y groth mewn menywod ar y ffordd i gael ei ddileu gan y rhaglen frechu hon, a dylem fod yn cynnig yr un fath i ddynion ifanc. Wrth iddynt dyfu'n hŷn, gallem ddatrys canser y pen a'r gwddf, sy'n ganser erchyll, dinistriol, gyda goblygiadau cost enfawr sy'n amlwg heb eu hystyried yn y dadansoddiad o'r gost yn ei gyfanrwydd. Felly, dyma frechlyn sy'n atal canser mewn menywod, dyma frechlyn y mae profiad rhyngwladol yn dangos ei fod yn atal canser ymhlith dynion yn ogystal. Felly, mae merched yn ei gael; dylai bechgyn ei gael hefyd. Diolch yn fawr.