Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 27 Mehefin 2018.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am wneud y cynnig sydd ger ein bron heddiw.
Y feirws papiloma dynol, neu'r enw haws i'w ynganu HPV, yw'r feirws a drosglwyddir yn rhywiol mwyaf cyffredin ar y blaned. Credir y bydd pedwar o bob pump o bobl yn cael un o'r 100 neu fwy o fathau o'r feirws ar ryw adeg yn eu bywydau. Yn y mwyafrif llethol o achosion, nid yw'r dynion a'r menywod sydd wedi'u heintio yn dangos unrhyw symptomau allanol a byth yn gwybod eu bod wedi dal y feirws yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, gwyddys bod haint HPV yn gyfrifol am bron 2 y cant o'r holl ganserau yn y DU. Oherwydd y cysylltiad agos hwn â rhai mathau o ganser—canser ceg y groth yn arbennig, lle y credir bod 99.7 y cant o'r achosion o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan haint HPV—gwnaed penderfyniad i frechu pob merch rhwng 12 a 18 oed. Ar y pryd, ystyrid ei bod yn rhy ddrud i frechu bechgyn er mwyn atal canser ceg y groth. Fodd bynnag, daeth tystiolaeth i'r amlwg yn cysylltu math 16 a math 18 o HPV â chanserau'r anws a'r pidyn, a rhai canserau'r pen a'r gwddf.
Mae'r dystiolaeth hon wedi'i chadarnhau gan ddatganiad interim y cydbwyllgor ar imiwneiddio a brechu ar ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys bechgyn yn eu harddegau. Mae'r cydbwyllgor yn cyfeirio at y dystiolaeth sy'n cynyddu ynglŷn â'r cysylltiad rhwng HPV a chanserau eraill heblaw canser ceg y groth. Fodd bynnag, mae'r cydbwyllgor yn ystyried dyfarnu yn erbyn gweithdrefn imiwneiddio ar gyfer dynion ifanc oherwydd bod y modelau a ddefnyddiwyd ganddynt yn dangos nad yw'n gosteffeithiol. Ond sut y gall fod yn gosteffeithiol i beidio ag imiwneiddio bechgyn yn eu harddegau? Mae'n fater o ychydig gannoedd o bunnoedd i frechu bachgen yn ei arddegau, yn erbyn y gost o drin y bechgyn neu'r merched y dônt i gysylltiad rhywiol â hwy a fyddai'n datblygu canser yn y dyfodol.
Hyd yn oed pe baem yn anwybyddu'r manteision i'r bechgyn o imiwneiddio yn erbyn canserau pen a gwddf penodol a rhai mathau o ganser yr anws a'r pidyn, ni allwn anwybyddu'r budd o gynyddu amddiffyniad rhag canser ceg y groth. Roedd y modelau a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r rhaglen frechu HPV ar gyfer merched yn rhagdybied cyfraddau brechu o dros 80 y cant. Dengys tystiolaeth a gafwyd gan Ymchwil Canser y DU fod y gyfradd mewn rhai ardaloedd awdurdod lleol mor isel â 44 y cant. Ni fydd hyn nid yn sicrhau imiwnedd poblogaeth, ac felly mae angen inni imiwneiddio bechgyn yn eu harddegau yn ogystal â merched os ydym i gael unrhyw obaith o frwydro yn erbyn canser ceg y groth.
Mae hwn yn fater cydraddoldeb hefyd: pam y mae'n iawn i adael i ddynion ifanc ddod i gysylltiad â feirws a allai beri iddynt ddatblygu canser y pen neu'r gwddf pan fo brechlyn profedig ac effeithiol ar gael, a hynny'n unig oherwydd nad yw mor gosteffeithiol ag ydyw mewn menywod ifanc?
Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw a gwrthod gwelliant y Llywodraeth. Gwnaeth y cydbwyllgor hi'n glir flwyddyn yn ôl na fyddent yn cefnogi ymestyn y brechlyn i gynnwys dynion yn eu harddegau ar sail y gost. Oni bai eu bod wedi gwrando ac wedi diweddaru eu modelau, maent yn annhebygol o newid y farn honno. Mae angen inni weithredu yn awr, nid aros ychydig flynyddoedd eto i'r polisïau ddal i fyny gyda'r dystiolaeth. Diolch. Diolch yn fawr.