Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau o Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon, a byddwn yn ei chefnogi'n llwyr, oherwydd yn y GIG heddiw rydym yn gyson yn sôn am yr angen i atal yn hytrach na gwella ac onid yw atal gymaint yn haws, ac os gallwn fynd allan a dal pobl a fyddai'n ddigon anffodus i ddatblygu canser o'r math hwn, gadewch i ni geisio ei atal, a gadewch i ni geisio ei atal yn awr.
Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, nid yw'n costio gormod o arian pan edrychwch ar effeithiau hyn yn nes ymlaen. Gadewch i ni feddwl nid yn unig am yr unigolyn a beth y gallent fod yn ei ddioddef, ond am y gost o ran cyflogaeth, y gost o ran holl gymorth y wladwriaeth, a'r gost o ran yr effaith ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. Felly, credaf fod yn rhaid inni lynu wrth yr agenda atal, ac mae'n cysylltu'n glir iawn â'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn dweud y dymunant weld y cyfeiriad teithio'n mynd. Rydym yn gofyn i bobl gymryd cyfrifoldeb, i gamu ymlaen, ac rydym yn dweud, 'Collwch bwysau, rhowch y gorau i ysmygu, a gwnewch fwy o ymarfer corff', a dyma rywbeth y gallem ei wneud yn eithaf hawdd a fyddai'n helpu i ddileu rhai o'r peryglon o ddatblygu clefydau hynod o annymunol.
Nid ydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth nad yw erioed wedi'i wneud o'r blaen. Gadewch inni fod yn glir iawn: mae bechgyn yn eu harddegau yn cael hyn mewn nifer o wledydd ledled y byd, Seland Newydd ers 2008—roeddent ar flaen y gad go iawn—Awstria, Croatia, rhannau helaeth o Ganada—tua phedair o daleithiau mawr Canada—a'r gwersi a ddysgwyd ganddynt yw y bydd prisiau'r brechiad yn gostwng gydag arbedion maint. Felly, unwaith eto, mae'n anodd iawn edrych ar hynny a gwrthod yr awydd i'w wneud.
Ond yn anad dim, rydym yn dweud o hyd cymaint y dibynnwn ar ein clinigwyr, cymaint o angen ein clinigwyr sydd arnom i wneud y penderfyniadau gorau drosom, ac mae ein clinigwyr wedi dweud yn glir iawn, a hoffwn gyfeirio at un ohonynt, Dr Evans. Mae hi'n oncolegydd clinigol ymgynghorol yn ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, ac mae wedi dweud—nid wyf hyd yn oed yn mynd i ddweud beth yw'r enw torfol ar y canserau hyn i gyd, nid wyf yn siŵr y gallwn ei ynganu, ond yn y bôn, mae canserau'r pen, y gwar, y tonsiliau, y tafod a'r gwddf wedi treblu yng Nghymru dros y 15 mlynedd diwethaf, ac mae hi'n dweud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y canserau hyn a HPV. Felly, dyma glinigydd uchel iawn ei pharch, clinigydd byd enwog, sydd wedi arwain ymgyrch—ymgyrch gref, oherwydd fe wnaethom ei chefnogi, y Ceidwadwyr Cymreig—ym mis Awst y llynedd pan ddywedodd yn glir iawn, 'Dylem edrych ar hyn'. Felly, unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r adolygiad seneddol, y weledigaeth ar gyfer iechyd, dan arweiniad clinigwyr, penderfyniadau clinigwyr—mae clinigwyr yn dweud y dylem edrych ar hyn, a chredaf y dylech wneud hynny.
Nid wyf yn hollol glir sut y cafodd Rhun ap Iorwerth y ffigurau cyllid, oherwydd rhaid imi ddweud wrthych yn onest fod fy ffigurau i'n sylweddol uwch na'ch rhai chi, ond rwy'n barod iawn i ddweud y gallai fy ffigurau fod yn anghywir—ond fe ddeuthum o hyd i ateb hefyd. Bydd yn amhoblogaidd dros ben, rwy'n gwybod, ond ceisiwch beidio â hisian gormod, ond mae dadansoddiad o ddata GIG Cymru yn amcangyfrif, pe bai paracetamol, asbirin, ibuprofen a co-codamol yn cael eu tynnu oddi ar restr GIG Cymru o feddyginiaethau am ddim i'r rheini nad ydynt yn amddifad neu'n agored i niwed neu bobl â chyflyrau cronig, byddai'n arbed tua £16 miliwn bob blwyddyn. Pan allaf fynd i'r archfarchnadoedd mawr iawn—byddai'n well i mi beidio â'u henwi—i brynu pecyn o ibuprofen am 32c, a bod pobl eraill yn gallu cael triniaeth sy'n achub eu bywyd—. Oherwydd nid yw arian yn tyfu ar goed, felly mae gennyf beth cydymdeimlad, oherwydd credaf y bydd yn costio mwy na £0.5 miliwn. Pe baem yn ystyried rhoi cymhorthdal i frechu 36,000 o fechgyn 12 i 13 oed Cymru, byddai'n costio—ar gost o oddeutu £300, sef yr hyn y mae fferyllydd stryd fawr enwog iawn yn ei godi ar hyn o bryd, byddai'n costio £11 miliwn amcangyfrifedig fan bellaf i'r GIG.
Felly, yr hyn rwyf am ei ddweud wrthych, Ysgrifennydd y Cabinet, yw bod atal yn well na gwella. Rydym yn ceisio cael neges iechyd y cyhoedd, rydym yn ceisio atal pobl rhag mynd yn sâl, fel bod y gost hirdymor i'r GIG ei hun, i'r wladwriaeth yn gyffredinol, i gyflogaeth, a'r pwysau ofnadwy y mae'n ei roi ar yr unigolyn ac ar deuluoedd—os gallwn ddechrau dileu hynny i gyd, nid oes unrhyw reswm yn y byd pam na ddylem fwrw ymlaen, gwrando ar y clinigwyr, a gwneud hyn. A gallwch ei fforddio drwy ofyn i rywun fel fi, sy'n ennill yr arian rwy'n ei ennill, i dalu 32c am fy ibuprofen, tra byddwch chi'n parhau i amddiffyn y bobl agored i niwed a'r bobl dlawd.