Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Nawr, ym mis Medi 2016, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ei wneud yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru. Y rheswm am hyn oedd oherwydd pryderon sylweddol ar y pryd ynghylch gofal heb ei drefnu, gofal canser a gofal wedi'i gynllunio, ymhlith eraill, fel y gwyddoch yn iawn. Er gwaethaf bron i ddwy flynedd o ffocws gan Lywodraeth Cymru, mae'n amlwg fod llawer o wasanaethau nid yn unig wedi methu gwella, ond wedi cymryd cam yn ôl mewn gwirionedd: mae perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys, gofal cleifion canser penodol, a pherfformiad gofal wedi'i gynllunio yn erbyn y targed 26 wythnos i gyd wedi cymryd cam yn ôl. Nawr, mae hyn yn amlwg yn codi cwestiynau o ran pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac rwy'n credu bod angen craffu ar hyn. A wnewch chi ymrwymo, felly, i gyflwyno datganiad Llywodraeth yma yn y Siambr fel y gallwn drafod y cymorth a ddarperir a'r heriau a wynebir yn fwy manwl?