Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:58, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf am ymrwymo i ddarparu datganiad; yr hyn rwyf am ymrwymo iddo yw fy mod yn hapus i wneud yn siŵr fod yr Aelodau'n cael gwybod am y cymorth sydd ar gael yn ogystal â chynnydd, neu fel arall, Bwrdd Iechyd ABM, oherwydd rydych yn gywir i ddweud bod yna heriau o ran perfformiad gofal heb ei drefnu a gofal canser yn arbennig. Rwy'n falch fod tuedd i wella wedi bod yn ystod y flwyddyn hon o ran gofal heb ei drefnu, gyda mwy i'w wneud eto i gynnal y sefyllfa gyda gofal canser yn ogystal. Felly, rwy'n fwy na pharod i ddod yn ôl ar y meysydd gwella, ond hefyd, o'r cwestiwn cyntaf a ofynnwyd heddiw, i nodi gwelliant yn eu sefyllfa ariannol. Rwy'n disgwyl y bydd hynny'n gwella, ac o ran gofal heb ei drefnu hefyd, yn sicr rwy'n disgwyl y byddwn mewn sefyllfa i gyhoeddi targed gwella o'r un a oedd ganddynt ar ddechrau'r flwyddyn, a pherfformiad gwell yn wir. Ond ceir amrywiaeth o feysydd lle mae gan ABM stori bwysig a chadarnhaol i'w hadrodd hefyd, fel pob rhan arall o'r gwasanaeth iechyd.