2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2018.
10. Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg? OAQ52404
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i ddarparu'r gefnogaeth a'r her angenrheidiol wrth iddynt weithio i sicrhau bod eu gwasanaethau yn diwallu anghenion eu poblogaeth leol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Nawr, ym mis Medi 2016, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ei wneud yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru. Y rheswm am hyn oedd oherwydd pryderon sylweddol ar y pryd ynghylch gofal heb ei drefnu, gofal canser a gofal wedi'i gynllunio, ymhlith eraill, fel y gwyddoch yn iawn. Er gwaethaf bron i ddwy flynedd o ffocws gan Lywodraeth Cymru, mae'n amlwg fod llawer o wasanaethau nid yn unig wedi methu gwella, ond wedi cymryd cam yn ôl mewn gwirionedd: mae perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys, gofal cleifion canser penodol, a pherfformiad gofal wedi'i gynllunio yn erbyn y targed 26 wythnos i gyd wedi cymryd cam yn ôl. Nawr, mae hyn yn amlwg yn codi cwestiynau o ran pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac rwy'n credu bod angen craffu ar hyn. A wnewch chi ymrwymo, felly, i gyflwyno datganiad Llywodraeth yma yn y Siambr fel y gallwn drafod y cymorth a ddarperir a'r heriau a wynebir yn fwy manwl?
Wel, nid wyf am ymrwymo i ddarparu datganiad; yr hyn rwyf am ymrwymo iddo yw fy mod yn hapus i wneud yn siŵr fod yr Aelodau'n cael gwybod am y cymorth sydd ar gael yn ogystal â chynnydd, neu fel arall, Bwrdd Iechyd ABM, oherwydd rydych yn gywir i ddweud bod yna heriau o ran perfformiad gofal heb ei drefnu a gofal canser yn arbennig. Rwy'n falch fod tuedd i wella wedi bod yn ystod y flwyddyn hon o ran gofal heb ei drefnu, gyda mwy i'w wneud eto i gynnal y sefyllfa gyda gofal canser yn ogystal. Felly, rwy'n fwy na pharod i ddod yn ôl ar y meysydd gwella, ond hefyd, o'r cwestiwn cyntaf a ofynnwyd heddiw, i nodi gwelliant yn eu sefyllfa ariannol. Rwy'n disgwyl y bydd hynny'n gwella, ac o ran gofal heb ei drefnu hefyd, yn sicr rwy'n disgwyl y byddwn mewn sefyllfa i gyhoeddi targed gwella o'r un a oedd ganddynt ar ddechrau'r flwyddyn, a pherfformiad gwell yn wir. Ond ceir amrywiaeth o feysydd lle mae gan ABM stori bwysig a chadarnhaol i'w hadrodd hefyd, fel pob rhan arall o'r gwasanaeth iechyd.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.