6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Adeiladu tai lesddaliad preswyl

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:11, 27 Mehefin 2018

Diolch yn fawr iawn. Mae 57 y cant o lesddeiliaid yn difaru eu bod nhw wedi prynu eiddo lesddaliad, ac mae hwn yn ffigwr llawer rhy uchel ac yn annerbyniol, wrth gwrs. Mae’r materion o bryder yn cynnwys y cymalau rhent tir beichus sy’n prysur droi o fod yn fforddadwy i fod yn anfforddadwy, ac yn gallu ei gwneud hi’n anodd iawn i werthu’r eiddo, ac mi all taliadau eraill am ganiatâd i addasu’r eiddo, a hyd yn oed caniatâd i werthu’r eiddo, ychwanegu at gostau parhaus.

O gofio cymhlethdod y system lesddaliad, ac yn wir prydlesi unigol, fe fydd llawer o lesddeiliaid wedi dibynnu’n llwyr ar eu cynghorydd cyfreithiol i dynnu sylw at unrhyw bryderon cyn prynu’r eiddo, ac mae’n gwbl bosib nad oedd rhai lesddeiliaid—o bosib llawer iawn ohonyn nhw—ddim yn sylweddoli beth yr oedden nhw’n cytuno i’w wneud, beth yn union yr oedden nhw yn ei arwyddo. Felly, mae’r bwriad yn y Bil i osod dyletswydd ar asiantwyr gwerthu a rheoli i ddarparu gwybodaeth am oblygiadau lesddaliad yn un gwerthfawr iawn ac yn un rydw i’n cytuno’n llwyr efo fo.

Mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad wedi gwneud dadansoddiad o ddata trafodiadau y Gofrestrfa Tir, ac wedi nodi bod gan Gymru ardaloedd lle mae yna lawer o dai newydd yn cael eu gwerthu ar lesddaliad. Mae llawer o’r ardaloedd hyn yn y gogledd, efo Aberconwy, gorllewin Clwyd, Wrecsam a Delyn ar frig y tabl o ran nifer y tai newydd yn cael eu gwerthu ar lesddaliad. Mi fyddai’r Bil newydd, wrth gwrs, yn golygu y byddai ceisiadau cynllunio ar gyfer tai newydd lesddaliad yn cael eu gwrthod, ac y mae hynny hefyd yn rhywbeth rydw i yn gefnogol iddo fo.

Gall fod amgylchiadau eithriadol, wrth gwrs. Nid ydw i’n gallu meddwl am unrhyw amgylchiadau efallai lle dylid caniatáu tai newydd lesddaliad, ond mae hynny’n rhywbeth y dylid meddwl amdano fo wrth i’r Bil gael ei graffu arno, rhag ofn bod yna unrhyw fath o rwystr yn dod yn sgil hynny. Efo’r gair yna o rybudd, rydw i'n eich llongyfarch chi am ddod â’r mater yma gerbron, ac yn edrych ymlaen yn sicr i weld y Bil yn mynd trwyddo. Diolch.