Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch i chi am yr adroddiad hwn. Rwyf wedi bod yn ymwneud â'r maes hwn ers amser hir, ynghyd ag ACau eraill, gan fy mod wedi cadeirio Cymru yn Erbyn Cloddio Glo Brig yma yng Nghymru, felly mae hynny'n fy rhoi mewn sefyllfa unigryw o bosibl i siarad am y rhai yn fy ardal i, ond rwyf hefyd yn gwybod cryn dipyn am lo brig mewn ardaloedd eraill. Yn fy ardal fy hun, er enghraifft, mae gennym Ochr y Waun ac East Pit yn Nghwmllynfell, lle y gwyddom fod cloddio hanesyddol wedi bod yn digwydd yn anghyfreithlon, lle mae estyniadau wedi digwydd yn erbyn ewyllys y bobl. Yng Nghynffig, ym Margam, yn fy rhanbarth i, mae gennym ehangder enfawr o ddŵr lle na fu unrhyw weithredu gyda gwaith adfer o hyd, sy'n gwbl droseddol yn fy marn i—fod cwmnïau'n gallu gwneud hyn. Gwelwn ym Merthyr, gyda Ffos-y-frân, gwelwn broblemau'r ffaith nad yw'r cwmni'n talu. Maent bellach wedi newid eu henw o Miller Argent i—beth y gallaf ei ddweud—Blackstone, er mwyn ceisio dianc rhag yr enw drwg y maent wedi'i gael dros y flwyddyn. Dylent fod yn talu'r rhandaliadau hynny i adfer y tir er mwyn adfer normalrwydd i bobl y dref honno ac fel nad oes raid iddynt fyw bywyd yn poeni am eu hiechyd, a pharhau i wneud cwynion am y ffordd y mae Miller Argent wedi gweithio yn yr ardal honno. Mae'r un peth yn wir am weithfeydd eraill ar draws de Cymru.
Nawr, er fy mod yn falch fod gennym yr adroddiad hwn, rwy'n sinigaidd braidd hefyd ynghylch casgliad 1 yn arbennig, fod cymaint o ffydd yn cael ei roi yn Llywodraeth Cymru, er nad yw'n ei groesawu, oherwydd y newidiadau polisi, y byddai i'w weld
'yn golygu bod datblygiadau glo brig newydd yn annhebygol iawn yn y dyfodol'.
Wel, gyda hyn yn bolisi, a MTAN yn dal i fod yn ganllaw, mae arnaf ofn nad wyf yn gwbl argyhoeddedig y dylem fod mor fodlon â'r hyn y mae'r casgliad hwn i'w weld yn ei adlewyrchu. Nid wyf o reidrwydd yn cytuno bod angen inni roi MTAN ar sail statudol, oherwydd teimlaf fod gormod o eithriadau yn y MTAN. Rwy'n credu bod angen inni fod wedi diwygio'r MTAN yn llwyr a chreu proses ddeddfwriaethol newydd lle rydym yn diffinio'r eithriadau hynny, yn diffinio beth fyddai ystyr derbyniol neu annerbyniol, a gwneud hynny'n gyfraith. Cyhyd ag y bo'n ganllaw, cyhyd â'i fod yn bolisi, bydd arolygwyr cynllunio allan yno, bydd awdurdodau lleol allan yno, a fydd yn gallu dweud, yn yr amgylchiadau eithriadol hyn, sy'n eithaf mawr—maent yn bellgyrhaeddol, yn edrych ar dueddiadau'r DU yn y diwydiant—gallent fwrw ymlaen yn y dyfodol. Felly, hoffwn fod mor gadarnhaol â chi, ond wedi cael y profiad a gefais, nid wyf yn teimlo mor gadarnhaol yn bersonol, a dyna pam yr hoffwn weld Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ymhellach. Mae hoelio ein gobeithion ar y polisi hwn yn iawn i rai, ond nid yw'n iawn i mi, mae arnaf ofn.
Mewn perthynas â gwaith adfer, rwy'n cytuno â chasgliad 3 y Pwyllgor Deisebau, byddwch yn falch o glywed, ond unwaith eto, mae angen inni fod yn siarad am waith adfer yn awr. Mae yna gwmnïau sy'n anwybyddu'r hyn y dylent fod yn ei wneud yma. Mae yna gwmnïau sydd ag arian a ddylai fynd tuag at waith adfer. Mae yna gymunedau sydd wedi byw gyda'r cefndir hwn yn eu cymdeithas ers blynyddoedd lawer, a dylai diffyg gweithredu gan y cwmnïau hyn fod yn embaras i'r awdurdod lleol ac i Lywodraeth Cymru am nad ydynt wedi gweithredu ar hyn yn gynt. Ceir deddfau sydd mewn grym eisoes i ddwyn y cwmnïau hyn i gyfrif, ac maent yn rhoi eu harian mewn cyfrifon tramor, maent yn seiffno'u cronfeydd i wahanol rannau o'r byd. Felly, ni allant fod yn atebol, ac rwy'n credu bod hynny'n hollol annerbyniol.
O ran galw i mewn, mynychais y gynhadledd a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl ar gymhwysedd mewn perthynas ag awdurdodau cynllunio mwynau awdurdodau lleol, ac roeddwn yn meddwl y byddai wedi bod yn syniad gwell i uno awdurdodau cynllunio mwynau yn hytrach na symud yn syth at alw ceisiadau i mewn fel opsiwn, oherwydd, os gallwn gael arbenigedd ar lefel leol, rhannwch yr arbenigedd hwnnw ar bob cyfrif, yn hytrach na throi'n syth at y broses alw i mewn. Nawr, gwn efallai nad yw John Cox ac eraill yn cytuno â mi ar hynny, ond nid wyf yn credu mai troi at broses wneud penderfyniadau genedlaethol yn syth ddylai fod yn ystyriaeth gyntaf, ond yn hytrach dylem geisio adeiladu arbenigedd drwy system yr awdurdod lleol lle y gellir gwneud hynny, ac nid wyf yn gwybod a gafodd hynny sylw pan basiwyd y portffolio i rywun arall yn Llywodraeth Cymru oherwydd, ar y pryd, roeddem yn clywed gan swyddogion fod hynny'n rhywbeth y byddent yn ei ystyried o ddifrif. Nid yw'n ymddangos yn iawn i mi y byddai'r Llywodraeth o bosibl am wneud y penderfyniadau hyn a hwythau wedi dweud beth bynnag nad ydynt eisiau gweld cloddio glo brig. Felly, os oes polisi'n mynd i fod yn erbyn cloddio glo brig, rhaid iddo dreiddio drwy ein holl bolisïau. Mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae gennym bolisïau datblygu cynaliadwy yn ganolog yn Llywodraeth Cymru ac mae hynny'n golygu bod angen inni arfer yr hyn a bregethwn mewn perthynas â hyn a sicrhau mai perthyn i'r gorffennol y mae cloddio glo brig.