Rhaglen Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:03, 3 Gorffennaf 2018

Edrychwn ymlaen i gael hwnnw, felly. Ond, mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi datgan ei bod hi am wthio'r cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg yn eu blaen fel rhan o'r rhaglen honno. Prif fyrdwn y cynigion rheini ydy ysgogi newid cyfeiriad llwyr ym mholisi iaith y Llywodraeth, gwanio hawliau, sgrapio'r comisiynydd a mynd â ni nôl i fframwaith gyfreithiol Deddf fethiedig 1993. Pa dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi cynigion y Llywodraeth? A wnewch chi oedi cyn cyflwyno Bil newydd ar y Gymraeg er mwyn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r achos dros Fil newydd? Onid ydy hi'n berffaith glir erbyn hyn mai cryfhau nid gwanio deddfwriaeth sydd ei angen yn sgil yr ymosodiad diweddaraf ar yr iaith Gymraeg gan Trago Mills?