Rhaglen Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 3 Gorffennaf 2018

Rwy'n rhannu'r anhapusrwydd ynglŷn â beth ddywedodd Trago Mills gyda hi, wrth gwrs—a phawb arall, rwy'n gobeithio, yn y Siambr hon. Nod y Bil yw cryfhau'r strwythur cyfreithiol ynglŷn â'r iaith Gymraeg, nid ei wanhau. Gyda'r system sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac yn enwedig gyda'r ddeddfwriaeth sydd gyda ni ar hyn o bryd, nid yw'n amlwg i fi fod y ddeddfwriaeth yn ddigon clir na bod y ddeddfwriaeth yn ddigon cryf er mwyn cael Bil Cymraeg yn y pen draw. Mae'n hollbwysig hefyd i ystyried pa fath o fframwaith deddfwriaethol a ddylai fod, ond hefyd ystyried ym mha ffordd y gallwn ni berswadio mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Er nad oeddwn yno, rwy'n clywed bod gŵyl Tafwyl wedi tynnu 40,000 o bobl mewn i Gaerdydd dros y penwythnos. Mae honno yn enghraifft dda i mi o'r ffordd y gallwch chi berswadio pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac i gael agwedd dda tuag at y Gymraeg. Felly, mae'n bwysig i ystyried ym mha ffyrdd y gallwn ni gryfhau'r ddeddfwriaeth a'r gyfraith, ond hefyd mae'n hollbwysig i ystyried ffyrdd y gallwn ni helpu i berswadio pobl jest er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cael sbri yn yr iaith Gymraeg.