Tlodi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:16, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r adroddiad cynhwysfawr a gyhoeddwyd ddoe gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, o'r enw 'Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol'. Nid wyf i'n disgwyl ei fod wedi ei ddarllen i gyd dros nos, ond, ynddo, awgrymir dulliau arloesol ar gyfer trethi atchweliadol, yn enwedig y dreth gyngor. Ac, fel y gwyddom, mae pobl sy'n byw yn yr eiddo â'r gwerth isaf yn talu bron i 5 y cant o werth eu tŷ mewn treth gyngor tra bod pobl sy'n byw yn yr eiddo drutaf yn talu cyn lleied â 0.25 y cant. Ond mae'r adroddiad yn awgrymu'n hollbwysig y dylem ni fabwysiadu agwedd gyfannol at drethiant a pholisi cyllidol yn gyffredinol yn hytrach nag edrych ar drethi unigol ar wahân. Dywed yr adroddiad y dylid mynd ar drywydd diwygiadau treth mewn ffordd integredig. Er enghraifft, gallai agwedd fwy blaengar at y dreth gyngor fod yn gysylltiedig â newidiadau i'r gyfradd treth trafodiadau tir neu dreth incwm. A yw'r Prif Weinidog yn cefnogi'r agwedd honno?