1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Gorffennaf 2018.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi? OAQ52445
Rydym ni wedi ymrwymo i wella canlyniadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol trwy fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar a chynyddu ffyniant i bawb trwy ganolbwyntio ar gyflogadwyedd a thwf economaidd.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae llawer o'm hetholwyr yn wynebu argyfwng ariannol yn ystod gwyliau'r haf, gan orfod dod o hyd i 10 o brydau ychwanegol fesul plentyn am chwe wythnos. Er bod Carolyn Harris AS yn darparu bwyd i rai plant am bythefnos o'r gwyliau, bydd angen sylweddol heb ei ddiwallu. Mae Faith in the Community wedi diwallu rhywfaint o'r angen hwnnw, ond mae cau Cymunedau yn Gyntaf yn rhoi parhad cinio a brecwast mewn rhai o'n cymunedau tlotaf yn y fantol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i gost parhau brecwastau am ddim a phrydau ysgol am ddim i'r rheini sy'n gymwys yn ystod gwyliau haf yr ysgolion?
Wel, rydym ni wedi sicrhau bod grant o £500,000 y flwyddyn ar gael i CLlLC ers 2017 i gefnogi'r rhaglen Food and Fun—Bwyd a Hwyl. Cafodd ei redeg mewn 38 o ysgolion y llynedd, yn cwmpasu 12 awdurdod lleol a phob un o'r saith bwrdd iechyd lleol, gyda tua 1,500 o blant yn elwa ar y rhaglen. Rhagwelir y bydd rhaglen 2018 yn rhedeg mewn oddeutu 60 o ysgolion. Bydd yn cwmpasu 16 o awdurdodau lleol, ac, unwaith eto, pob ardal BILl. Yr arwyddion yw y bydd amcangyfrif o 3,000 o ddysgwyr yn mynychu'r cynllun yr haf hwn.
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r adroddiad cynhwysfawr a gyhoeddwyd ddoe gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, o'r enw 'Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol'. Nid wyf i'n disgwyl ei fod wedi ei ddarllen i gyd dros nos, ond, ynddo, awgrymir dulliau arloesol ar gyfer trethi atchweliadol, yn enwedig y dreth gyngor. Ac, fel y gwyddom, mae pobl sy'n byw yn yr eiddo â'r gwerth isaf yn talu bron i 5 y cant o werth eu tŷ mewn treth gyngor tra bod pobl sy'n byw yn yr eiddo drutaf yn talu cyn lleied â 0.25 y cant. Ond mae'r adroddiad yn awgrymu'n hollbwysig y dylem ni fabwysiadu agwedd gyfannol at drethiant a pholisi cyllidol yn gyffredinol yn hytrach nag edrych ar drethi unigol ar wahân. Dywed yr adroddiad y dylid mynd ar drywydd diwygiadau treth mewn ffordd integredig. Er enghraifft, gallai agwedd fwy blaengar at y dreth gyngor fod yn gysylltiedig â newidiadau i'r gyfradd treth trafodiadau tir neu dreth incwm. A yw'r Prif Weinidog yn cefnogi'r agwedd honno?
Credaf fod llawer iawn o gyfleoedd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i archwilio modelau o'r fath. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, dwy dreth sydd wedi'u datganoli; bydd treth incwm yn dilyn yn fuan. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, ei bod hi'n bwysig ymsefydlu'r system, ond rwy'n credu bod cyfle i gael trafodaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol, ac o fewn pleidiau gwleidyddol, i weld pa fath o system dreth y byddem ni'n hoffi ei chael yng Nghymru. Ceir manteision ac anfanteision gyda'r dreth gyngor, wrth gwrs. Rydym ni'n gwybod bod rhai pobl sy'n talu lefel uchel o dreth gyngor pan fo eu hincwm yn eithaf isel mewn gwirionedd. Rydym ni'n gwybod hefyd, wrth gwrs, gyda phethau fel treth incwm leol, bod y cwestiwn yn codi wedyn: a ydych chi'n talu lle'r ydych chi'n byw, neu a ydych chi'n talu lle'r ydych chi'n gweithio? Mae'n rhaid edrych yn ofalus ar y pethau hyn, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n rhan o'r ddadl dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Ar ôl dau ddegawd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, canfu adroddiad 'Tlodi yng Nghymru 2018' Sefydliad Joseph Rowntree bod cyfran yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi incwm yng Nghymru yn dal yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a bod tlodi ymhlith parau â phlant wedi bod yn cynyddu ers 2003-06. Yn y cyd-destun hwnnw, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Sefydliad Bevan nad yw'r polisïau'n gweithio os yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi arnynt, ac na ddylai rhaglen trechu tlodi newydd gael ei chyfarwyddo o'r brig i lawr?
Rwyf i bob amser yn meddwl bod gwrando ar y Ceidwadwyr yn siarad am dlodi ychydig fel rhywun yn ceisio sefyll ar gwch olwyn heb syrthio i mewn i'r môr o gyni cyllidol sydd wedi casglu o'i amgylch. Y gwir amdani yw bod ei blaid ef wedi gwneud cymaint i leihau incwm ein pobl dlotaf. Sut gallwn ni orffwys fel cymdeithas pan ydym yn gwybod bod nyrsys yn Lloegr sy'n gorfod mynd i fanciau bwyd? Roeddem ni'n arfer dweud wrth bobl, 'Os byddwch chi'n cael swydd, byddwch chi'n well eich byd'. Nid yw hynny'n wir mwyach. Rydym ni wedi gweld budd-daliadau mewn gwaith yn cael eu torri, rydym ni wedi gweld toriadau treth i'r rhai sy'n ennill fwyaf, ac wedyn mae gennym ni wleidyddion Ceidwadol yn meddwl tybed pam mae lefelau tlodi wedi cynyddu. Oes, wrth gwrs, mae gennym ni ein cynlluniau i fynd i'r afael â thlodi, ond mae angen newid Llywodraeth arnom ni yn Llundain fel bod gennym ni Lywodraeth sydd yn llawer mwy ymrwymedig i gymdeithas fwy cyfartal.
Diolch i'r Prif Weinidog.