Tlodi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 3 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 3 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf fod llawer iawn o gyfleoedd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i archwilio modelau o'r fath. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, dwy dreth sydd wedi'u datganoli; bydd treth incwm yn dilyn yn fuan. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, ei bod hi'n bwysig ymsefydlu'r system, ond rwy'n credu bod cyfle i gael trafodaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol, ac o fewn pleidiau gwleidyddol, i weld pa fath o system dreth y byddem ni'n hoffi ei chael yng Nghymru. Ceir manteision ac anfanteision gyda'r dreth gyngor, wrth gwrs. Rydym ni'n gwybod bod rhai pobl sy'n talu lefel uchel o dreth gyngor pan fo eu hincwm yn eithaf isel mewn gwirionedd. Rydym ni'n gwybod hefyd, wrth gwrs, gyda phethau fel treth incwm leol, bod y cwestiwn yn codi wedyn: a ydych chi'n talu lle'r ydych chi'n byw, neu a ydych chi'n talu lle'r ydych chi'n gweithio? Mae'n rhaid edrych yn ofalus ar y pethau hyn, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n rhan o'r ddadl dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.