Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Diolch, Caroline. Unwaith eto, rwy’n cydnabod eich stori bersonol a'ch cydnabyddiaeth o'r ffaith bod y GIG wedi helpu i ddiogelu a chynnal eich bywyd chi, a hefyd y cynnydd aruthrol a wnaed i wella iechyd ac i ddileu achosion sylweddol o anabledd, salwch a marwolaeth. Unwaith eto, rydym i gyd wedi sôn am staff o fewn y gwasanaeth, ac mae'n hollol iawn ein bod yn gwneud hynny.
Yr her wedyn yw a ydyn ni'n barod i fwrw ymlaen â’n prif ymrwymiad i gael sgwrs am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol a chyflawni arni. Nid yw hynny'n atal pobl rhag gofyn cwestiynau lletchwith i’r Llywodraeth—ni wnaiff byth wneud hynny, ac ni ddylai—ond ceir heriau o hyd ynglŷn â sut i wneud dewisiadau pan gynigir newid mewn gwahanol rannau o'r wlad a’r hyn yr ydyn ni'n barod i’w wneud mewn gwirionedd. Nid dim ond her i un blaid yw hon, mae'n her i bob un ohonom, oherwydd bydd pob un ohonom yn cael ein herio gan newidiadau yn ein hardaloedd lleol, yr ydym yn eu cynrychioli, a gan bryder pobl oherwydd cynnig i newid rhywbeth y maen nhw’n ei werthfawrogi ac yn ei ddeall. Dyna pam mae mor bwysig bod y staff yn arwain y sgwrs, staff yn siarad â staff eraill, staff yn siarad â’r cyhoedd ac yn gwrando arnynt, oherwydd rwy’n gwarantu na chaiff 10 o wleidyddion yn sôn wrth y cyhoedd am y GIG byth eu credu o'i gymharu â llond llaw o aelodau staff yn sôn am yr heriau sy'n eu hwynebu. Mae'n hawdd deall pam mae pobl yn ymddiried yn y staff yn y modd hwnnw. Felly, mae angen inni wrando ar y staff, ond y rhanddeiliad allweddol o ran gwella iechyd y cyhoedd yw'r dinesydd unigol ei hun, yn ei gyd-destun ei hun. Mae’r dewisiadau yr ydyn ni’n eu gwneud yn cael effaith fwy o lawer ar ganlyniadau iechyd y genedl na'r gwasanaeth technegol a ddarperir gan y GIG.
Ar eich pwynt am Ymladd Blinder, yr wythnos diwethaf, cytunais ar siarter blinder gyda Chymdeithas Feddygol Prydain. Felly rwy’n edrych i weld sut y bydd yr ymgyrch Ymladd Blinder yn cysylltu â’r siarter y cytunwyd arni, oherwydd rwy’n cydnabod bod angen i’n staff allu mynd i'r gwaith ac nid dim ond bod yn hapus a brwdfrydig, ond bod ag amser i orffwys ac i gyflawni eu dyletswyddau heb ymdopi â blinder ei hun. Felly, mae gennyf ddiddordeb yn y maes, byddaf yn edrych ar yr ymgyrch sy’n cael ei lansio a sut mae hi mewn gwirionedd yn gyson â’r siarter yr wyf fi wedi cytuno arni gyda chynrychiolwyr meddygon o fewn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.