Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Yn gwbl ganolog i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a 'Ffyniant i bawb', mae'r angen i ganoli ein gwasanaethau ar yr unigolyn ac i feithrin gallu ein cymunedau i gefnogi gwell iechyd a lles. Fel Llywodraeth, mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl i gael eu cynnwys yn fwy helaeth yn eu cymunedau. Credaf fod y rhaglen gwella bywydau yn rhoi inni'r trywydd i gyflawni hyn ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd.
Mae'r argymhellion yn eang. Serch hynny, credaf mai'r tair blaenoriaeth flaenaf yw: lleihau anghydraddoldebau iechyd, cynyddu integreiddio yn y gymuned a gwella systemau cynllunio ac ariannu.
Mae tystiolaeth o nifer o adroddiadau yn dangos bod disgwyliad oes pobl ag anabledd dysgu gryn dipyn yn is nag eiddo eraill yn ein poblogaeth. Mae'r rhaglen gwella bywydau yn gwneud ymgais i leihau'r anghydraddoldeb hwn ac atal marwolaethau cynamserol. Bydd addasiadau rhesymol yn yr holl leoliadau gofal iechyd yn galluogi pobl i gael gafael ar wasanaethau priodol yn brydlon. Mae archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yn bwysig ac mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i archwilio'r ffyrdd o gynyddu'r archwiliadau hyn. Mae hyn yn cynnwys datblygu llythyr gwahoddiad safonol a syml, ar sail Cymru gyfan, yn hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng cydweithwyr yn y gwasanaethau gofal sylfaenol ac anabledd dysgu i sicrhau y bydd pob un sy'n gymwys am wiriadau iechyd yn hysbys i'r gwasanaethau.
Yn ein hysbytai cyffredinol, ein nod yw cynyddu'r defnydd o'r pecynnau gofal, a lansiwyd yn wreiddiol yn 2014, yn dilyn adroddiad crwner i farwolaeth Paul Ridd, y mae ei deulu erbyn hyn yn rhedeg y Paul Ridd Foundation—partner allweddol wrth gefnogi ein gwaith ar anghydraddoldebau iechyd. Mae gan y Paul Ridd Foundation raglen lawn o hyfforddi hyrwyddwyr anabledd dysgu mewn ysbytai ac mae wedi sicrhau bod gan wardiau ledled Cymru ffolder adnoddau i gefnogi'r defnydd o becynnau gofal.
Ein hail flaenoriaeth yw mwy o integreiddio yn y gymuned. Bythefnos yn ôl, ymwelais ag un o brosiectau cyfeillgarwch Mencap Cymru a chefais fy nharo gan y profiadau personol o stigma ac unigedd yr oedd y plant a'r bobl ifanc yn sôn amdanynt. Dywedasant wrthyf hefyd eu bod yn teimlo bod gwahaniaeth rhwng y dyheadau sydd gan gymdeithas ar eu cyfer nhw a'r dyheadau ar gyfer pobl ifanc yn gyffredinol. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau i gyd yn cytuno ei bod yn flaenoriaeth allweddol mynd i'r afael â'r stigma y mae pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd yn ei wynebu. Mae angen inni bwyso am yr un newid agwedd yr ydym yn dechrau ei weld gydag iechyd meddwl, gan ddathlu'r cyfraniad y mae pobl ag anabledd dysgu yn ei wneud i'n cymunedau, a defnyddio ein ffrydiau ariannu i sicrhau bod pobl yn cyflawni eu dyheadau.
Felly, bydd rhai o'r pethau y bwriadwn eu gwneud yn cynnwys: gweithio gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio i gynyddu'r dewis o dai a sicrhau bod pobl yn byw yn nes at eu cartref, drwy'r agenda 20,000 o gartrefi newydd wedi'i thargedu; gan ddefnyddio'r rhaglen gronfa gyfalaf gofal integredig dair blynedd gwerth £105 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i gefnogi pobl ag anabledd dysgu i fyw bywydau annibynnol a llwyddiannus—rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda byrddau'r partneriaethau rhanbarthol i sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu gan yr hwb hwn mewn buddsoddiad; a chefnogi prosiectau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu drwy gangen refeniw'r gronfa gofal integredig, yr ydym eto wedi dyrannu £50 miliwn iddi yn 2018-19. Ehangwyd cwmpas y gronfa i gynnwys meysydd blaenoriaethu y byrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer integreiddio, gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu. Mae hyn wedi arwain at gefnogaeth ariannol i amrywiaeth eang o brosiectau sy'n golygu mwy o integreiddio cymunedol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.
Yn olaf, byddwn i gyd yn cydnabod mai un o'r ffyrdd mwyaf pwerus o sicrhau bod pobl yn teimlo'n integredig yn eu cymunedau yw sicrhau bod pobl yn cael llwybr i waith. Gyda dim ond 6 y cant o bobl ag anabledd dysgu mewn cyflogaeth â thâl, rwy'n cydnabod anferthedd yr her a wynebwn. Felly, byddaf yn gweithio gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymchwilio i ddewisiadau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu i gael gafael ar gymorth cyflogadwyedd, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno lleoliadau gwaith cyflogedig a gynorthwyir.
Ein blaenoriaeth derfynol yw'r angen i edrych ar wella data a'r cyllid sydd ar gael. Mae'r cofrestri gwasanaethau cymdeithasol yn dangos bod 15,000 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, ond credir bod llawer mwy na hynny nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn cael gwasanaethau. Wrth i anghenion y bobl hyn newid, mae'n debyg iawn y bydd angen mwy o gymorth arnyn nhw. Felly, cynigir ein bod yn cynnal ymchwil ac yn casglu data ar boblogaeth y rhai ag anabledd dysgu yng Nghymru i ddeall eu hanghenion yn well i'r dyfodol.
Mae angen inni hefyd wneud gwell defnydd o'r cyllid presennol drwy edrych ar sut mae taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio ac ailddyrannu cyllid iechyd a gofal cymdeithasol i alluogi cytundeb cyflym ar becynnau gofal, ynghyd â chomisiynu gwasanaethau ar y cyd.
Felly, rwy'n ddyledus i gefnogaeth y grŵp cynghori gweinidogol ar anabledd dysgu wrth gynhyrchu'r adroddiad hwn a'r argymhellion. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â nhw a'r cadeirydd, Mrs Gwenda Thomas, a'r cyd-gadeirydd, Miss Sophie Hinksman, i ddarparu gwasanaethau a fydd yn wir yn gwella bywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.