Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Mae'r adolygiad traws-Lywodraeth hwn o bolisi, gwasanaethau a chyllid anabledd dysgu yn deillio o'n hymrwymiad i wella bywydau ein dinasyddion ac ymdrin ag anghydraddoldebau lle bynnag y maen nhw'n bodoli. Comisiynwyd y gwaith hwn gan sawl un o'm cyd-Weinidogion, ac rydym wedi ymdrin â'r mater gan edrych ar hyd y cwrs bywyd cyfan, sy'n cwmpasu blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, cyflogaeth a sgiliau. Rwy'n falch tu hwnt o gael cymaint o bobl i'n cefnogi wrth i ni Gwrandawsom ar brofiad o fywyd gwirioneddol pobl, gan fod hynny'n rhoi cipolwg i ni o'r mannau y mae angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw er mwyn cael yr effaith fwyaf. Dywedodd pobl wrthym, er bod ardaloedd bychan o arfer da a gwasanaethau cryf, fod gormod o bobl yn dal i orfod brwydro i gael y cymorth a'r addasiadau i'r gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen i'w galluogi i fyw bywydau cyffredin.