Y Diwydiant Moduron

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:36, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Edrychwch, nid oes unrhyw un yn ennill mewn senario lle nad oes gennym gytundeb, yn seiliedig ar y trafodaethau a gafwyd. Credaf mai un man lle mae'r Aelod yn gwbl gywir yn ei asesiad yw pan fo'n ddweud y dylai hon fod yn fwy na dadl ynghylch pwy fydd fwyaf ar ei golled a sicrhau nad y DU fydd fwyaf ar ei cholled. Er mwyn sicrhau ein bod oll yn elwa i'r eithaf, a'n bod oll yn colli cyn lleied ag y bo modd, rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd bragmatig iawn tuag at y trafodaethau, ac mae'r ymagwedd bragmatig honno'n golygu bod yn rhaid i Brif Weinidog y DU anghofio'r llinellau coch y mae wedi bod mor hoff ohonynt dros fisoedd lawer a mabwysiadu safbwynt gyda'r nod o gynnal cyflogaeth. Ac mae hynny'n golygu parhau i fod yn rhan o undeb tollau a mynediad rhydd a dirwystr at y farchnad sengl. Rydym wedi bod yn gyson ers peth amser bellach yn ein safbwynt, a gobeithio y bydd Llywodraeth y DU a'i Chabinet yn mabwysiadu'r safbwynt hwnnw yn y pen draw hefyd.