Y Diwydiant Moduron

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:34, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad oes unrhyw unigolyn call yn dymuno gweld tariffau ar fewnforio ac allforio ceir rhwng Prydain a'r UE. Pe bai'r Comisiwn Ewropeaidd, yn anffodus, yn parhau i atal cynigion am gytundeb masnach rydd, yr UE a fyddai fwyaf ar eu colled gan eu bod yn allforio gwerth £3.9 biliwn o geir i ni; dim ond gwerth £1.3 biliwn rydym yn eu hallforio iddynt hwy, ac mae hanner y ceir sy'n cael eu hallforio i Brydain o'r UE yn dod o'r Almaen. A yw wedi gweld bod Rupert Stadler, cadeirydd Audi, wedi dweud na fyddai unrhyw un yn ennill pe na bai'r UE a'r DU yn dod i gytundeb masnach, ac y byddai'n arwain at golli swyddi yn yr Almaen yn ogystal â Phrydain, a bod Lutz Meschke o gwmni ceir Porsche yn dweud y byddai methu dod i gytundeb yn peryglu swyddi yn yr Almaen? Ac wrth gwrs, o ganlyniad i gynlluniau tariff Trump, byddai hynny'n arwain at broblemau anferthol i gynhyrchwyr ceir Ewrop, oherwydd bod yr UE yn gosod tariff o 10 y cant ar geir a fewnforiwyd o'r Unol Daleithiau, tra bo'r Unol Daleithiau yn gosod tariff o 2.5 y cant yn unig ar hyn o bryd. Felly, diffyndollaeth yr Undeb Ewropeaidd a'u anhyblygrwydd hwy wrth negodi sy'n peri’r problemau posibl hyn.