Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 1:50, 4 Gorffennaf 2018

Nid wyf wedi ystyried y cwestiwn yma, oherwydd rydw i'n parhau i ddisgwyl adroddiad ar un cynllun arall yn arbennig, sef oriel gelf gyfoes, ac mi fyddaf i’n ystyried honno pan ddaw'r adroddiad. Mae yna, wrth gwrs, nifer o elfennau o'n traddodiad milwrol yn cael eu coffau yn barod. Mae gan y gwahanol rannau o'r lluoedd arfog amgueddfeydd bychain. Mae yna amgueddfa, fel y gwyddoch chi, o fewn castell Caerdydd—Firing Line. Roeddwn i'n arfer bod yn gysylltiedig â'r amgueddfa honno cyn i fi ddod i'r swydd yma, ac felly rydw i'n hapus iawn i edrych ar y posibiliadau, ond mi fyddai'n rhaid i hynny fod yn bartneriaeth gyda'r lluoedd arfog eu hunain, os ydym ni'n mynd i dderbyn arteffactau neu unrhyw dystiolaeth hanesyddol ar gyfer unrhyw arddangosfa felly, neu amgueddfa felly. Nid wyf wedi gweld y cynllun gan y blaid Geidwadol Gymreig, ond mi fyddwn i'n croesawu cael cyfarfod i drafod hyn, pe byddech chi'n dymuno.