Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr iawn am y cynnig. Gallaf argymell maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig fel rhywbeth da i'w ddarllen ryw gyda'r nos. [Torri ar draws.] O, diar. Yn gynharach y mis hwn, trydarodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod
Yn falch iawn o gyhoeddi bod un o'r cynyrchiadau diweddaraf i gael eu comisiynu yn y DU gan @NetflixUK yn cael ei ffilmio yng Nghymru ar hyn o bryd diolch i gefnogaeth @LlywodraethCym.
Mae hynny'n newyddion gwych, rwy'n croesawu hynny. Fodd bynnag, gyda'n hymchwiliad parhaus i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cyfryngau a'r ffaith bod y gyllideb fuddsoddi yn y cyfryngau wedi'i hatal dros dro, a allwch gadarnhau mai cefnogaeth ariannol sydd dan sylw yma? Ac os felly, o ba gronfa neu raglen fenthyca y daw'r cymorth hwnnw?