Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
O ran y cynlluniau rhanbarthol sy'n cael eu llunio, credaf y bydd angen i'r cynlluniau hynny arwain at fframwaith ar gyfer gweithio'n rhanbarthol sy'n cael gwared ar y cymhlethdodau a all fod yn feichus, gyda gormod o sefydliadau a chyrff yn gwneud yr un peth â'r corff arall yn y bôn, ond mewn ffordd wahanol neu gydag ymarfer brandio gwahanol. Dywed busnesau wrthym fod arnynt eisiau un pwynt cyswllt ar gyfer yr holl gymorth gan y Llywodraeth neu lywodraeth leol, ac o ran datblygu economaidd, ein bod yn canolbwyntio ar y ffactorau a all hybu cynhyrchiant, ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl y sgiliau cywir i lenwi swyddi gwag, a'n bod yn parhau i fuddsoddi yn y seilwaith cywir. Mae pob un o'r rhain yn elfennau o'r cynllun gweithredu economaidd ac rwy'n hyderus y byddwn, drwy gadw at y trywydd rydym wedi'i sefydlu bellach ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru, yn arwain at well lefelau o ffyniant—nid yn unig o ran cyfoeth, ond lefelau gwell o les hefyd.