Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond os edrychwn ar y sefydliadau sy'n gyfrifol bellach am ddarparu economi gref ar sail ranbarthol—y bargeinion dinesig, menter y Cymoedd, yr ardaloedd menter sy'n weddill, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac wrth gwrs, yr awdurdodau lleol—yn sicr, mae'r ffiniau rhwng yr holl gyrff hyn yn aneglur. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ffyddiog y gallant weithredu mewn modd cydweithredol a chosteffeithiol, ac a oes gennych dystiolaeth fod y cydweithrediad hwn yn digwydd mewn gwirionedd?