Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:45, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr, a chredaf fod Ewro 2016 yn enghraifft berffaith i ddangos sut y gall sylw cyfandir cyfan—y byd i gyd, mewn gwirionedd—gael ei hoelio ar wlad fach a chanolbwyntio ar beth yw ei nodweddion unigryw. Yn achos Ewro 2016, siaradwyd y Gymraeg dros bob man, ac roedd hynny'n ychwanegu gwerth. Ond rwy'n falch iawn o allu dweud y byddwn yn edrych ar brosiect penodol yng Nghymru a fydd yn archwilio potensial yr iaith Gymraeg i sbarduno datblygiad economaidd. Prosiect Arfor fydd y prosiect hwnnw, prosiect a argymhellwyd gan Adam Price, a bydd yn cael ei ddatblygu gan y Llywodraeth hon.